Latest headlines in Welsh
- Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
| Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
|---|---|---|---|---|
| Plaid CEID Ceidwadwyr Cymru | YmgeiswyrPaul Davies | Pleidleisiau11,123 | 39.2% | Newid o ran seddau (%)−3.2 |
| Plaid LLAF Llafur Cymru | YmgeiswyrDan Lodge | Pleidleisiau7,193 | 25.3% | Newid o ran seddau (%)−9.1 |
| Plaid PC Plaid Cymru | YmgeiswyrJohn Osmond | Pleidleisiau3,957 | 13.9% | Newid o ran seddau (%)−1.6 |
| Plaid UKIP Plaid Annibyniaeth y DU | YmgeiswyrHoward Lillyman | Pleidleisiau3,286 | 11.6% | Newid o ran seddau (%)+11.6 |
| Plaid DRh Dem Rhydd Cymru | YmgeiswyrBob Kilmister | Pleidleisiau1,677 | 5.9% | Newid o ran seddau (%)−1.8 |
| Plaid GRDd Plaid Werdd Cymru | YmgeiswyrFrances Bryant | Pleidleisiau1,161 | 4.1% | Newid o ran seddau (%)+4.1 |
Newid o'i gymharu â 2011 | ||||
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Ceidwadwyr Cymru Mwyafrif
3,930% a bleidleisiodd
50.3%Portread o'r etholaeth
Mae etholaeth fwyaf gorllewinol Cymru, Preseli Penfro, yn ardal wledig ar y cyfan a’n cynnwys rhannau o Dde Penfro, ble mae’r Saesneg yn fwy amlwg, a phoblogaeth fwy yng ngogledd y sir sy'n siarad Cymraeg. Y prif drefi yw Abergwaun gyda'i borthladd pwysig ar gyfer teithio i Iwerddon, Hwlffordd, Aberdaugleddau a dinas leiaf y DU, Tyddewi.
Mae'r rhan yma o Gymru yn boblogaidd ar gyfer ymddeol, gyda 23% o'r boblogaeth dros 65 oed. Mae’r cyfartaledd yn y grŵp yna ar draws Cymru’n 20%. Mae'r ardal yn cynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae twristiaeth yn brif gyflogwr.
Llafur enillodd y sedd yn y ddau etholiad Cynulliad cyntaf, ond yn 2007 cafodd ei chipio gan Paul Davies i'r Ceidwadwyr, sydd wedi cynrychioli'r sedd ers hynny. Yn 2011 cafodd Mr Davies 42.4% o'r bleidlais gyda Llafur yn ail ar 34.4%, Plaid Cymru'n drydydd gyda 15.5% a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd ar 7.7%.