Latest headlines in Welsh
- Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
| Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
|---|---|---|---|---|
| Plaid CEID Ceidwadwyr Cymru | YmgeiswyrRussell George | Pleidleisiau9,875 | 41.8% | Newid o ran seddau (%)−1.9 |
| Plaid DRh Dem Rhydd Cymru | YmgeiswyrJane Dodds | Pleidleisiau6,536 | 27.7% | Newid o ran seddau (%)−5.9 |
| Plaid UKIP Plaid Annibyniaeth y DU | YmgeiswyrDes Parkinson | Pleidleisiau2,458 | 10.4% | Newid o ran seddau (%)+10.4 |
| Plaid PC Plaid Cymru | YmgeiswyrAled Morgan Hughes | Pleidleisiau2,410 | 10.2% | Newid o ran seddau (%)−1.1 |
| Plaid LLAF Llafur Cymru | YmgeiswyrMartyn Singleton | Pleidleisiau1,389 | 5.9% | Newid o ran seddau (%)−5.5 |
| Plaid GRDd Plaid Werdd Cymru | YmgeiswyrRichard Chaloner | Pleidleisiau932 | 3.9% | Newid o ran seddau (%)+3.9 |
Newid o'i gymharu â 2011 | ||||
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Ceidwadwyr Cymru Mwyafrif
3,339% a bleidleisiodd
48.5%Portread o'r etholaeth
Mae Sir Drefaldwyn yn etholaeth wledig, ble mae amaeth a thwristiaeth yn ddiwydiannau allweddol. Mae'r etholaeth yn cynnwys rhan ogleddol sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ac mae llawer o etholwyr yr ardal yn dibynnu ar wasanaethau hanfodol ar draws y ffin yn Yr Amwythig. Mae amgueddfa yn gysylltiedig â’r diweddar Robert Owen - un o ddiwygwyr cymdeithasol mwyaf Prydain - wedi ei lleoli yn nhref fwyaf y sedd, Y Drenewydd.
Er bod y gyfran o bobl sydd mewn gwaith (79.1%) yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (69.5%), mae'r cyflog crynswth wythnosol yn is ar gyfartaledd – sef £425.50 o’i gymharu â £479.40 ar draws Cymru.
Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y sedd yn y tri etholiad Cynulliad cyntaf, ond fe gipiodd y Ceidwadwyr y sedd am y tro cyntaf yn 2011 - a hynny ar ôl ennill y sedd yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2010. Sicrhaodd Russell George fwyafrif o 2,324 a 43.7% o'r bleidlais i'r Ceidwadwyr, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael 33.6%, Llafur 11.4% a Phlaid Cymru 11.3%.