Latest headlines in Welsh
- Llafur yn sicrhau 29 sedd
Canlyniadau
| Plaid | Ymgeiswyr | Pleidleisiau | % | Newid o ran seddau (%) |
|---|---|---|---|---|
| Plaid PC Plaid Cymru | YmgeiswyrSian Gwenllian | Pleidleisiau10,962 | 54.8% | Newid o ran seddau (%)−1.9 |
| Plaid LLAF Llafur Cymru | YmgeiswyrSion Jones | Pleidleisiau6,800 | 34.0% | Newid o ran seddau (%)+7.8 |
| Plaid CEID Ceidwadwyr Cymru | YmgeiswyrMartin Peet | Pleidleisiau1,655 | 8.3% | Newid o ran seddau (%)−4.2 |
| Plaid DRh Dem Rhydd Cymru | YmgeiswyrSara Lloyd Williams | Pleidleisiau577 | 2.9% | Newid o ran seddau (%)−1.6 |
Newid o'i gymharu â 2011 | ||||
% a bleidleisiodd and Mwyafrif
Plaid Cymru Mwyafrif
4,162% a bleidleisiodd
50.9%Portread o'r etholaeth
Etholaeth yn y gogledd orllewin yw Arfon, sy'n cynnwys tref Caernarfon - lle cafodd Tywysog Cymru ei arwisgo yn 1969 - a dinas Bangor a'i phrifysgol. Mae twristiaeth a'r sector cyhoeddus yn gyflogwyr mawr yma, ac mae yma hefyd ddiwydiant cyfryngau ffyniannus.
Mae nifer uchel y myfyrwyr yn golygu bod proffil demograffig gwahanol o’i gymharu ag etholaethau eraill ar hyd arfordir y gogledd - 17% o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu’n hŷn yma, o'i gymharu â 26% yn Aberconwy.
Yn San Steffan, bu hen sedd Caernarfon yn gadarnle i Blaid Cymru ers i Dafydd Wigley ennill etholiad 1974. Cafodd etholaeth Arfon ei chreu ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2007. Alun Ffred Jones o’r Blaid enillodd bryd hynny gyda 52% o'r bleidlais. Yn 2011, enillodd hi eto gyda 56% o'r bleidlais. Llafur ddaeth yn ail gyda 26%, y Ceidwadwyr yn drydydd gyda 12% a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd gyda 4%.