Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd: Gwent
- Cyhoeddwyd

Ar 5 Mai bydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr.
Tasg y Comisiynydd fydd craffu ar lu a sicrhau ei fod yn atebol.
Fe fydd Comisiynydd hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb ar gyfer y llu.
Y deiliad presennol yn ardal Gwent yw Ian Johnston, sydd ddim yn ceisio cael ei ail-ethol.
Cliciwch yma am ein canllawiau i:
Dyfed-Powys
Gogledd Cymru
De Cymru
Yr etholiadau

Pwy yw'r ymgeiswyr?
Louise Brown, Ceidwadwyr Cymreig
Jeff Cuthbert, Llafur Cymru
Darren Jones, Plaid Cymru

Beth yw Heddlu Gwent?
Mae Heddlu Gwent yn gofalu am bum awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru, Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, ardal o 600 milltir sgwâr a phoblogaeth o fwy na 576,700.
Mae hon yn ardal wledig a threfol.
Yn ninas Casnewydd mae'r boblogaeth fwyaf gyda thua 150,000 o drigolion.
Mae rhan brysur o'r M4 yn rhedeg drwy'r ardal yn y de, yr holl ffordd i'r Ail Bont Hafren.
Ar hyn o bryd mae'r llu yn cyflogi 1,285 o swyddogion, 835 o staff a 191 o swyddogion cymorth cymunedol. Mae'r gweithlu 10% yn llai nag yr oedd yn 2010, yn ôl yr heddlu.
Y prif gwnstabl presennol yw Jeff Farrar, a benodwyd ar ôl i'r cyn-brif gwnstabl Carmel Napier ymddiswyddo yn 2013 o dan amgylchiadau dadleuol.

Cyllid
Cyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2016/17 yw £130.7m.
Heblaw cyllid gan y llywodraeth yng Nghymru a'r DU a £5.8m mewn incwm, mae disgwyl rhyw £47m o braesept yr heddlu ar y dreth gyngor.
Yn 2016/17 mae'r praesept y dreth gyngor yn £220.06 ar gyfer eiddo band D.
Mae hynny'n cymharu â £207.85 ar gyfer De Cymru, £200.07 yn Nyfed-Powys a £240.12 yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.
Roedd y Comisiynydd yn cynllunio arbedion effeithlonrwydd o o £4.3m yn 2016/17.

Trosedd a pherfformiad
Cododd nifer y troseddau a gofnodwyd yng Ngwent 4% rhwng mis Medi 2014 a Medi 2015.
Roedd cyfanswm o 37,306 o ddigwyddiadau, ac eithrio twyll.
Roedd achosion o drais yn erbyn y person wedi codi 26% yn ystod y cyfnod hwnnw, er bod pob un ond un heddlu wedi cofnodi cynnydd yn y categori hwnnw o droseddau.
Cododd troseddau rhywiol 24%, ond fe wnaeth digwyddiadau o fyrgleriaeth ostwng 11% a difrod troseddol a llosgi bwriadol ostwng 1%.
Yn yr arolygiad blynyddol diwethaf o heddluoedd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, canfu arolygwyr bod yr heddlu wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella ansawdd a safonau ac mae ganddo ddull da o ymchwilio i droseddau a rheoli troseddwyr.
Dywedodd yr Arolygiaeth bod Heddlu Gwent yn dda am atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd ganddo berthynas gref gydag ystod eang o bartneriaid.