Dydd Gŵyl Dewi: Ailddechrau traddodiad o gofio awduron yr anthem

Cofeb i Evan James a James James, awduron Hen Wlad fy Nhadau, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd torch o flodau'n cael ei gosod ar gofeb Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad ddydd Sul

GanAlun Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae awduron yr anthem genedlaethol yn cael eu cofio mewn digwyddiad Gŵyl Dewi yn eu milltir sgwar.

Bu Evan James - awdur y geiriau - a'i fab James James, oedd yn gyfrifol am alaw Hen Wlad Fy Nhadau, yn byw ym Mhontypridd.

Ym Mharc Ynysangharad yn y dref ddydd Sul bydd torch o flodau yn cael ei gosod ar y gofeb i'r ddau.

"Ry'n ni'n edrych i ailddechrau traddodiad oedd arfer digwydd - ddaeth i ben tua diwedd yr 80au," meddai prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Osian Rowlands wrth Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru.

Bydd y seremoni yn cloi digwyddiad cymunedol i ddathlu Gŵyl Dewi, fydd yn cynnwys corau ysgolion lleol, corau cymunedol ac artistiaid fel Gwilym Bowen Rhys a Bethany Powell, fu ar raglen Y Llais ar S4C.

Prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Osian Rowlands, o flaen cofeb Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Osian Rowlands o Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf eisiau ailddechrau'r traddodiad o osod torch ar y gofeb

Yn ôl Osian Rowlands, mae'n gyfle "i ddathlu arwyr lleol".

Criw ieuenctid o Gapel y Tabernacl ym mhentref Efail Isaf ger Pontypridd sydd wedi creu'r dorch

"Be' ni wedi gwneud eleni yw cydweithio gyda'r Twmiaid, fel bod pobl ifanc Rhondda Cynon Taf - mewn perthynas gyda ni a'r fenter - yn ailddechrau'r traddodiad yma, a gobeithio fydd yn draddodiad wedyn fydd yn gallu parhau yn flynyddol."

Hen luniau o James James, a'i dad Evan JamesFfynhonnell y llun, Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd James James, a'i dad, Evan James, wedi ysgrifennu Hen Wlad Fy Nhadau ym 1856, a 'Glan Rhondda' oedd enw gwreiddiol y darn

Cafodd cofeb i awduron Hen Wlad fy Nhadau ei chynllunio gan Syr William Goscombe John, a'i gosod ym Mharc Ynysangharad ym mis Gorffennaf 1930.

Dywedodd adroddiadau papur newydd ar y pryd bod 10,000 o bobl yn bresennol ar gyfer y seremoni ddadorchuddio.

Gobaith Osian Rowlands yw y bydd cynnal seremoni flynyddol ar Ddydd Gŵyl Dewi yn codi ymwybyddiaeth o awduron yr anthem, yn y dref lle roedden nhw'n byw.

Dywedodd ei fod yn gobeithio bydd pobl Pontypridd yn "browd" o gysylltiad y dref â'r tad a'r mab ysgrifennodd yr anthem genedlaethol.

"Ryn ni'n dathlu celebs fel Tom Jones ac ati, sydd eto mor bwysig, ond mae 'na rywbeth falle pwysicach ac enwocach i'w gael yn y parc, ac ishe talu clod i hynny y'n ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.