Ysgol uwchradd ar gau ddydd Llun yn sgil 242 o ddisgyblion yn sâl

Mae 242 o ddisgyblion a 12 aelod o staff mewn cyfanswm wedi'u cofnodi yn sâl
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol uwchradd yng Nghaerffili ar gau ddydd Llun, yn sgil "gwasgariad sylweddol o salwch tebyg i ffliw".
Cafodd e-bost ei anfon at rieni a gofalwyr Ysgol Martin Sant ddydd Gwener, 5 Rhagfyr, yn dweud bod 242 o ddisgyblion a 12 aelod o staff methu â mynychu oherwydd salwch.
Roedd yr e-bost gan y pennaeth yn nodi symptomau fel "chwydu, dolur rhydd, tymheredd uchel, peswch, cur pen, blinder ac effeithiau cyffredinol tebyg i ffliw".
"Yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn yn cau'r ysgol dros dro i ganiatáu cyfnod byr i atal lledaeniad, lleihau trosglwyddiad pellach a chwblhau glanhau trylwyr o'r adeilad."
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi bod mewn cysylltiad â'r ysgol "ac rydym yn deall bod yr ysgol wedi cynnal asesiad risg ac wedi penderfynu cau dros dro".
'Amser heriol'
Yn ôl yr e-bost, bydd dysgu rhithiol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion o bob oedran ac maen nhw'n gobeithio ailagor ddydd Mawrth.
"Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ac yn mynegi unrhyw benderfyniadau cyn gynted ag y gallwn.
"Rydym yn deall y gallai hyn fod yn anodd i deuluoedd ac yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth.
"Ein blaenoriaeth yw iechyd a lles yr holl ddisgyblion, staff a'r gymuned ehangach.
"Parhewch i gadw'ch plentyn gartref os ydynt yn dangos unrhyw symptomau salwch, hyd yn oed os ydynt yn ysgafn, er mwyn helpu i atal lledaeniad pellach."
Ychwanegodd yr e-bost bod yr ysgol yn ddiolchgar am ddealltwriaeth rhieni a gofalwyr, yn ystod yr "amser heriol" yma.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â phennaeth yr ysgol, Lee Jarvis, am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.