Abertawe: Pryder am ddyfodol busnesau bach wedi ymadawiad M&S

Marks and Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y siop yn cau ddydd Sadwrn 30 Mai

GanAimee Thomas
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon cynyddol am fusnesau llai yng nghanol dinas Abertawe ar ôl i Marks and Spencer gyhoeddi y bydd yn cau ddiwedd y mis.

Mae masnachwyr yn dweud bod y siop wedi bod yn ffactor allweddol i ddenu pobl i siopa yn y ddinas, ac yn ofni y gallai colli'r cwsmeriaid hynny gael effaith ar siopau cyfagos.

Ond mae arbenigwyr manwerthu yn dweud bod y symudiad yn adlewyrchu newidiadau ehangach mewn arferion siopa, a bod yn rhaid i ganol dinasoedd addasu i oroesi.

Yn ôl Cyngor Abertawe, maen nhw'n gweithio gyda Marks and Spencer i chwilio am opsiynau ar gyfer safle newydd mewn man arall yn y ddinas.

Dywedodd Marks and Spencer fod y penderfyniad yn adlewyrchu eu cynlluniau i fuddsoddi mewn siopau sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid yn well.

'Effeithio'n negyddol arnom ni'

Agorodd y siop M&S gyntaf yn Abertawe fel stondin "penny bazaar" yn 1902, cyn ehangu i fod yn siop adrannol fwy yn 1932.

Mae nifer o fasnachwyr lleol yn dibynnu ar lif cwsmeriaid y mae siopau mawr fel Marks and Spencer yn ei ddenu i'r ardal.

Heb y llif hwnnw, mae rhai yn poeni y gallai llai o bobl ymweld â'r stryd fawr yn gyffredinol.

Spencer Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pobl yn mynd i feddwl dwywaith cyn dod yma," meddai Spencer Morgan

Agorodd y gemydd Spencer Morgan ei ddrysau 46 o flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi gweld sawl newid ers hynny.

"Bydd e siŵr o effeithio'n negyddol arnom ni yma yn Abertawe - mae'n siop enfawr ac mae'n hwb i siopau eraill," meddai.

"Mae pobl yn mynd i feddwl dwywaith cyn dod yma.

"Mae pobl o orllewin Cymru sy'n mynd allan am ddiwrnod o siopa, efallai byddan nhw'n cael eu denu i Gaerdydd nawr yn hytrach na throi off i Abertawe.

"Mae Marks yn sefydliad ar y stryd fawr. Ni'n mynd i golli rheswm sylweddol arall i bobl i fedru dod yma."

Nigel Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Evans yn berchen ar siop tatŵ Skin City yn y ddinas

Dywedodd Nigel Evans, sy'n berchen ar siop tatŵ Skin City yn y ddinas, ei fod wedi gweld yr un peth yn digwydd yn nhrefi cyfagos eraill.

"Mae'r un peth yn Llanelli a Chastell-nedd lle wnaeth M&S gau," meddai.

"Does dim eisiau pobl i fynd mewn i'r dref am unrhyw reswm ond i brynu bwyd yn siopau mawr fel Marks and Spencer neu Tesco."

Yn ôl arbenigwyr manwerthu, mae'r newid yn rhan o duedd ehangach sy'n cael effaith ar ganol trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig.

Wrth i arferion siopa newid, mae pwysau cynyddol ar awdurdodau lleol a busnesau i addasu.

Sut mae denu pobl i'r stryd fawr?

Yn ôl Dr Alessandro Graciotti o Brifysgol Abertawe, mae angen i ganol ddinasoedd gynnig profiadau gwahanol.

"Dydyn ni methu anwybyddu'r ffaith bod siopau mawr fel Marks and Spencer yn denu llawer o bobl i ganol y ddinas," meddai.

"Ond dwi'n gobeithio bod strategaeth i fynd i'r afael â'r ffaith bod denu cwsmeriaid i ddinasoedd ar hyn o bryd yn ddibynnol ar siopau enfawr.

"Yn hytrach, fe ddylwn ni ganolbwyntio ar ddigwyddiadau unigryw sydd yn ymwneud â diwylliant Cymru i ddenu pobl ac i wneud canol dinas Abertawe yn lle mwy bywiog."

Alessandro
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Alessandro Graciotti o Brifysgol Abertawe, mae angen i ganol ddinasoedd cynnig profiadau gwahanol

Mae Cyngor Abertawe wedi dweud eu bod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd i adfywio canol y ddinas.

Y nod yw denu mwy o bobl yn ôl i'r ardal, a chreu canol dinas sy'n cynnig mwy na siopa yn unig - gan gynnwys llefydd i fwyta, gweithio a chymdeithasu.

Un enghraifft o'r newid hwn yw'r Albert Hall. Ar un adeg roedd yn hen sinema wag, ond bellach mae'n gartref i fusnesau bwyd annibynnol.

Yn ôl y perchennog, Simon Baston, mae'n rhaid i ddinasoedd a threfi addasu.

"Mae Abertawe wedi adfywio tri neu bedwar o adeiladau adnabyddus, sydd wedi rhoi hunaniaeth wych i'r ddinas. Nawr mae'n amser i lenwi'r bylchau eraill.

"Gallai hynny edrych fel datblygiadau preswyl, neu fusnesau annibynnol sy'n cynnig profiadau gwahanol fel chwaraeon, bwyd, neu gerddoriaeth.

"Mae rhaid i ni fod yn bositif am y dyfodol, ac mae rhaid i lefydd symud ymlaen."

Dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn siomedig bod Marks and Spencer wedi penderfynu cau ddiwedd mis Mai, ond eu bod yn gweithio gyda'r cwmni i ddod o hyd i safle newydd iddyn nhw yn y ddinas.

Dywed llefarydd ar ran Marks and Spencer fod y penderfyniad yn adlewyrchu eu cynlluniau i ail-lunio siopau er mwyn gallu buddsoddi mewn siopau sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid yn well.

Am y tro, mae llawer yn Abertawe yn paratoi i ffarwelio â siop sydd wedi bod yn rhan o fywyd y ddinas ers bron i ganrif.

Bydd y siop yn cau ddydd Sadwrn, 30 Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.