Lle oeddwn i: Caryl Parry Jones a Calon

Caryl a rai o fand Injaroc
Disgrifiad o’r llun,

Caryl a rai o fand Injaroc

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mi ddaeth y gân Calon yn ofnadwy o sydyn rhwng Paddington a Bristol Parkway."

Mae'r gantores a'r gyfansoddwraig Caryl Parry Jones wedi ysgrifennu nifer fawr o ganeuon dros y blynyddoedd ac mae Calon, y gân wnaeth hi ei chyfansoddi hanner canrif yn ôl pan oedd hi'n fyfyrwraig 19 oed, yn un o'i chlasuron.

Gyda sioe newydd o'i chaneuon o'r enw Calon yng Nghanolfan y Mileniwn ym mis Awst eleni, bu Caryl yn trafod y daith trên arbennig pan gyfansoddodd y gân eiconig yn ôl yn 1977:

Mi o'n i ar y trên o Lundain i Gaerdydd. Ar y pryd o'n in aelod o'r grŵp Injaroc ac oedd yr albym Halen y Ddaear ar y gweill.

Oedd 'na nifer o wahanol gyfansoddwyr o fewn y grŵp ac oeddan ni wedi 'neud y genres ffync a roc ac o'n i'n meddwl cael cân disgo achos 'da ni'n sôn am y 1970au – oedd disgo yn bob dim.

Oedd 'na gân yn y siartiau ar y pryd o'r enw I love to love (but my baby loves to dance) gan Tina Charles ac o'n i'n meddwl, dyna be' 'da ni angen yw anthem disgo yn Gymraeg. Do'n i ddim yn siŵr os oedd o wedi cael ei wneud.

Ac o'n i isho gair oedd yn enw cariadus heb ddweud cariad – yn Saesneg mae'n hawdd achos mae geiriau fel baby a love.

Oeddan i wedi sylwi bod pobl o'r gorllewin yn dweud 'sut ti calon?' – dydy o ddim yn rhywbeth 'da ni'n dweud yn y gogledd yn y ffordd yna.

Y cyfansoddi

Mi ddaeth y gân yn ofnadwy o sydyn rhwng Paddington a Bristol Parkway.

Dwi'n clywed y rhythm gynta' a dwi'n trio meddwl am rhythm fyddai'n benthyg ei hun i ba bynnag genre. Wedyn y gair calon 'na – dwi'n siarad efo rhywun, dwi'n siarad efo fy nghariad felly mae angen dweud neu gorchymun rhywbeth o'r galon.

Dwi mewn disgo yn y gân efo fy nghariad a dwi jest yn gofyn, 'sut 'da ni'n cael bach o rhamant a dawnsio?'.

Dyna'i gyd oedd hi ac mi ddoth yn sydyn.

Daeth y geiriau wedyn yn slo' bach a dyna sut y goginiwyd Calon.

Injaroc
Disgrifiad o’r llun,

Injaroc, gyda Caryl yng nghanol y rhes flaen

'Nes i gyflwyno'r gân i weddill y grŵp a derbyniad llugoer gafod hi gan rai o'r aelodau – "na, 'da ni ddim yn rhoi honna ar yr albym... mae dipyn bach yn siwgwrllyd..."

Oedd 'na cwpl o aelodau fel Charli Britton yn arbennig yn hoffi hi. Felly fe'i recordiwyd hi.

Y berfformwraig ifanc - clawr llyfr CarylFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y berfformwraig ifanc - clawr llyfr Caryl

Ail fywyd i'r gân

Oedd hi ddim yn ddewis cyntaf i fynd ar yr albym Halen y Ddaear ond mi aeth. Mae wedi bod yn dda iawn i fi, chwarae teg i'r hen gân.

Mae bron yn 50 mlwydd oed – 'nes i sgwennu hi yn 1977 pan o'n i'n stiwdent ym Mhrifysgol Bangor a dim cynlluniau mawr i 'neud unrhyw beth.

'Nath Injaroc ddim para yn hir iawn a 'natho ni erioed ei chanu hi'n fyw.

Ond 'nath hi ddechrau ei bywyd ei hun ar ôl Injaroc - oedd hi'n gân ysgafn a'n gân disgo ac 'nes i ddechrau ei chanu hi fel artist unigol a chafodd hi ail wynt efo trefniant Diffiniad yn y 90au a diolch iddi nhw am neud hynny. Mae dal i fynd!

Fuaswn i'n sicr ddim yn meddwl fyddai sioe gerdd yn cael ei hysgrifennu gyda Calon fel y teitl.

'Lle cynnes yn fy nghalon'

Mae lot o bobl wedi gofyn i fi ar hyd y blynyddoedd i wneud sioe o fy nghaneuon i. Oedd rhywbeth apelgar iawn ynglŷn â chenedlaeth ifanc yn gwneud sioe Calon ac yn enwedig drwy'r Urdd achos mae'r Urdd wedi gwneud ac yn parhau i wneud cymaint dros y celfyddydau ac wedi g'neud cymaint o les i genhedlaethau o berfformwyr.

Oedd o'n teimlo fel y ffordd iawn o wneud o.

Caryl yn gwylio ymarferion o'r sioe newydd CalonFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Caryl yn gwylio ymarferion o'r sioe newydd Calon

Dwi'n meddwl mod i wedi datblygu dipyn fel cyfansoddwr ers ysgrifennu Calon ond mae rhywbeth annwyl, chwaraeus a dihid bron amdani. Mae'n llawn ieuenctid ac mae hynna'n 'neud fi'n hapus. Mae'r teip 'na o gân yn codi gwên.

Mae gen i le cynnes iawn yn fy nghalon i am y gân yna.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb