Jake Ball i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

Jake BallFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ball yn rhan o'r tîm a enillodd y Gamp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae'r chwaraewr rygbi Jake Ball wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Mae'r clo 34 oed wedi ennill 50 cap dros Gymru ac wedi chwarae 148 o weithiau i'r Scarlets.

Dywedodd Ball y bydd yn dod â'i yrfa chwarae i ben ar ddiwedd y tymor, gan nodi "anafiadau ac ymrwymiadau busnes y dyfodol".

Ni fydd Ball yn chwarae yng ngêm ola'r tymor ym Mharc y Scarlets yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn, ond bydd yn ymddangos yn y stadiwm gyda'i wraig, Christie, a'i blant i ddweud hwyl fawr i'r cefnogwyr.

Cafodd Ball ei eni yn Ascot ond roedd yn gymwys i chwarae i Gymru trwy ei dad sy'n dod o Fae Colwyn.

Roedd yn rhan o'r tîm a enillodd y Gamp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2019.

"Mae'n teimlo fel yr amser iawn, dwi wedi cael dipyn o anafiadau i'r pen ac anafiadau eraill," meddai.

"Dwi'n meddwl bod fy nghorff yn dweud rhywbeth wrtha i, dwi'n falch wnes i ddod yn ôl am gyfle arall gyda'r Scarlets.

"Dwi wedi mwynhau bod yn ôl yn yr amgylchedd yma a bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol unwaith eto.

"I allu ymddeol yma, gyda'r clwb lle wnaeth popeth ddechrau i fi, mae'n gwneud o'n fwy arbennig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig