Disgwyl ffyrdd prysur wrth i bobl deithio adref ar gyfer y Nadolig

TraffigFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd oedi hir ar y ffyrdd cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Gyda gwyliau'r Nadolig ar ddechrau, mae disgwyl i filoedd ar filoedd o bobl deithio adref dros y dyddiau nesaf.

Yn ôl cymdeithas foduro'r RAC, roedd dros 37 miliwn o geir yn defnyddio ffyrdd y DU dros y penwythnos - gyda disgwyl i'r prysurdeb barhau tan y diwrnod mawr.

Bydd rhywfaint o drafferthion ar y rheilffyrdd dros yr Ŵyl - gyda gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y lein rhwng Caerdydd a Llundain rhwng 27 Rhagfyr a dydd Calan.

Ond mae yna newyddion da i'r rhai sy'n defnyddio fferïau, gan fod porthladd Caergybi - y llwybr môr prysuraf rhwng Prydain ac Iwerddon -ar agor.

Roedd y porthladd hwnnw ar gau adeg yma'r llynedd yn sgil difrod a gafodd ei achosi yn ystod Storm Darragh.

Mae amserlenni yn dal i gael eu heffeithio gan effaith Storm Bram yn gynharach yn y mis - ac mae gofyn i bobl wirio eu cynlluniau yn ofalus cyn teithio.

TrênFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhai gwasanaethau trên ynh Nghymru'n cael eu heffeithio gan waith cynnal a chadw ar y lein rhwng Bryste a Llundain

Yn ôl yr arbenigwyr dadansoddi data teithio INRIX, mae'n debygol mai dydd Mercher fydd y diwrnod prysuraf ar y ffyrdd.

Mae dros 4.2m o deithiau wedi eu cynllunio ar gyfer Noswyl Nadolig, meddai INRIX, y nifer fwyaf ar 24 Rhagfyr ers cyfnod Covid.

Mae'r RAC ac INRIX yn rhagweld oedi sylweddol ar ffyrdd prysur rhwng 11:00 a 19:00.

Y gred yw y bydd y ffyrdd ychydig yn dawelach ddydd Llun a dydd Mawrth gydag ond 3.1m a 3m o deithiau wedi eu cynllunio.

Fel yn y blynyddoedd diwethaf, bydd y gwasanaethau ar y rhan fwyaf o lwybrau yn gorffen am 21:00 ar Noswyl Nadolig ac yn ailddechrau ar 27 Rhagfyr.

Rhybuddiodd Trafnidiaeth Cymru y gallai rhai gwasanaethau gael eu hail-drefnu neu eu newid rhwng 24-31 Rhagfyr oherwydd gwaith hanfodol.

O 29 Rhagfyr i 1 Ionawr, bydd gwaith peirianneg yn digwydd rhwng Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin ac Aberdaugleddau ym Mhenfro.

O 4 Ionawr i ddydd Sadwrn, 24 Ionawr, bydd y lein o Aberdâr i Bontypridd ar gau oherwydd gwaith yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.

Mae modd gweld y wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol a Great Western Railway., dolen allanol

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig