Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Llanuwchllyn

Cafodd y llu eu galw am 19:35 i adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A494
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Bala yng Ngwynedd nos Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw am 19:35 i adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A494 yn Llanuwchllyn rhwng dau gerbyd lliw du - BMW 240i a Mitsubishi L200 .
Fe aeth y gwasanaethau brys i'r safle, ond bu farw gyrrwr y BMW yn y fan a'r lle.
Cafodd gyrrwr y Mitsubishi anafiadau difrifol a'i gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor yn Wrecsam.
Wrth apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, dywedodd y Ditectif Sarjant Liam Morris o Uned Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu'r Gogledd bod "eu meddyliau gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd yma, a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trychinebus yma".
"Rydym yn gweithio i sefydlu amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn annog unrhyw un allai fod â gwybodaeth fyddai o gymorth i'n hymchwiliad i gysylltu â ni.
"Rydym yn enwedig yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y BMW yn cael ei yrru yn y cyfnod yn arwain at y gwrthdrawiad.
"Os oeddech chi yn gyrru ar hyd yr A494 ger Llanuwchllyn neithiwr ac wedi gweld y cerbyd, neu os oes ganddoch chi luniau dashcam allai fod o gymorth i'n hymchwiliad, yna cysylltwch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.