Perfformiad arbennig o Tawel Nos gan Lily Beau

  • Cyhoeddwyd

Dydy hi ddim yn Nadolig heb drefniant arbennig, newydd, o garol boblogaidd yma yn Cymru Fyw.

Lily Beau sy'n perfformio i ni eleni. Roedd hi hefyd yn gyfle i glywed am rai o'i thraddodiadau Nadolig hi a'i theulu.

Disgrifiad,

Lily Beau: 'Dwi'n caru'r Nadolig'

Dwi'n caru'r Nadolig.

Fi'n cofio dod adre o'r ysgol, rhoi ffilm Nadolig 'mlaen, rhoi coeden Nadolig lan... dwi jest yn cofio glow sbesial. Ac o'dd e wastad yn 'neud i fi deimlo'r hud roedd Mam a Dad wedi ei greu – o'dd e jest mor sbesial.

Bob blwyddyn ar Noswyl Nadolig, mae gennym ni ddiwrnod gêms; darts, gemau bwrdd gwahanol, cwis a ni'n cadw sgôrs. Mae'n gystadleuol iawn – mae fel Olympics tŷ ni. A gweld os fydden ni dal yn siarad dydd Nadolig...!

Diwrnod Dolig, fi gartre o flaen y tân, yn yfed Mimosas peth cynta', Dad yn coginio drwy'r dydd a neb yn cael mynd i'r gegin. Mae Siôn Corn yn gosod y bwrdd, sydd wastad yn treat lyfli.

Joio da'n gilydd, a mae'n siŵr codi'n rili cynnar a chysgu'r rhan fwyaf o'r diwrnod, achos fydda i wedi mynd bach rhy excited!

Lily Beau

Mae cerddoriaeth yn hollol hanfodol. Mae 'na playlists yn mynd 'mlaen yn y bore rhwng fi, fy chwaer a Dad gyda'i feinyls. Rhaid cael rhywbeth yn y cefndir, neu fyddai hi ddim yn Nadolig.

Dwi'n canu caneuon Nadolig drwy'r flwyddyn. Dyw e ddim yn ocê ym mis Mehefin i ganu 'Well here it is, Merry Christmas...', ond fi jest yn dwlu arno fe!

Dwi'n caru Fairytale of New York, sydd yn hudol, a River gan Joni Mitchell, sy'n dechnegol ddim yn gân Nadolig, ond mae e ddigon Nadoligaidd i mi. Fi'n caru sengl newydd Aleighcia Scott; mae unrhywbeth mae hi'n ei 'neud yn magic, felly mae hwnna mlaen lot ar y foment.

Ni'n mynd i gyngerdd Al Lewis bob blwyddyn, os gallwn ni gael tocynnau, ond fel arall, ni'n eitha hermit-like – mae'n gyfle reit neis i gloi'r dryse.

Fi'n joio stopio gweithio dros Dolig. Dwi am fod wrth y piano yn gweithio fy albym gynta' i a dwi mor gyffrous, felly siŵr o fod, bydda i'n sgwennu ac yn joio creu.

Mins peis, gwin a phiano – merch lwcus!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb