Martyn Geraint yn dweud 'hwyl fawr' ar ôl 40 mlynedd yn diddanu plant Cymru

Wcw a Martyn Geraint
- Cyhoeddwyd
Mae Martyn Geraint ar fin ymddeol ar ôl 40 mlynedd yn diddanu plant Cymru.
O'i gyfarchion pen-blwydd fel cyflwynydd Slot Meithrin, i'w ganeuon enwog fel Sam Tân a Minnau, i'w sioeau Jambori byw, mae cenedlaethau o blant wedi eu magu'n hwyl a chân yr eicon o Bontypridd.
Ond ym mis Gorffennaf 2026 bydd Martyn Geraint yn perfformio am y tro olaf ar fandstand Y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n amser i ddweud ta-ta, dwi eisiau gorffen tra dwi dal yn dda," eglurai Martyn.
Breuddwydio am fod yn seren bop
Ac mae gorffen ei yrfa fel diddanwr i blant yn Llanelwedd yn creu cylch cyflawn gan mai yno y dechreuodd ddiddanu plant fel cyflwynydd y gyfres deledu Pen a Chynffon.
Ond fe gychwynnodd taith Martyn at fyd adloniant plant drwy ei freuddwyd i fod yn seren bop.
O berfformio'n eisteddfodau'r ysgol yn Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Gyfun Rhydfelen, i ddechrau cyfansoddi ar y piano yn 13 mlwydd oed, i dderbyn ei gitâr drydanol cyntaf ar ei ben-blwydd yn 17, a'i gastio i sioeau opera gan Opera Cenedlaethol Cymru, fe sylweddolodd Martyn yn ifanc iawn y gallai wneud bywoliaeth trwy ganu.

Martyn yn ddisgybl blwyddyn wyth yn Ysgol Gyfun Rhydfelen gyda gwobr ar ôl dod yn fuddugol mewn cwis deledu o'r enw Baw Bw!
Meddai: "Dwi'n cofio'r Welsh National Opera yn dod i Rydfelen i chwilio am blant i fod yn rhan o opera pan o'n i tua 13. Cafodd criw ohonon ni ein dewis i fod yn rhan o gynhyrchiad o Queen of Spades, Tchaikovsky.
"Oedd hwnna'n brofiad anhygoel a sylweddoles i, ti'n gallu ennill bywoliaeth trwy ganu."
Ond yn ei amser sbâr, cyfansoddi caneuon pop ar ei biano trydan oedd Martyn nid canu opera.
"Ro'n i'n casau gwersi piano a do'n i ddim yn ymarfer Beethoven a Mozart ond yn ymarfer stwff fy hun," meddai. "O'n i'n dwlu gallu cyfansoddi, wedyn pan o'n i yn y chweched ro'n i mewn cwpwl o fandiau.
"Fy mand cyntaf oedd Amoeba yn chwarae gitâr drydanol. Oedd miwsig pop yn beth mawr gen i."

Meistr yr allweddellau
Ac yntau'n dyheu i fod ar lwyfan, fe wrandawodd ar gyngor ei fam a oedd yn pryderu y byddai heb waith fel perfformiwr, a mynd i'r coleg yng Nghaerdydd i hyfforddi fel athro.
Cafodd Martyn y gorau o ddau fyd. Tra'n hyfforddi i fod yn athro parchus, bu hefyd yn aelod o'r grŵp Treiglad Pherffaith gyda'r prifardd Ifod ap Glyn cyn ffurfio ei fand ei hun, Ffenestri, gyda'i ffrind Geraint James.
"Roedden ni'n gigo loads gyda Treiglad rhwng 82-86, roedd e'n gyfnod ffantastig," meddai.
"Wedyn gyda Ffenestri, roedden ni'n cael ein disgrifio fel Y Pet Shop Boys Cymru. Y ddau ohonon ni ar y keyboard!"
"Ar ôl graddio wedyn ro'n i'n gwybod dim dysgu o'n i eisiau 'neud, ond roedd y gigio wedi rhoi enw i fi fel frontman ac roedd gen i'r cefndir addysg felly dyna sut ges i fy swydd yn cyflwyno Pen a Chynffon gyda Teledu'r Tir Glas. Rhyw fath o gwis yn yr awyr agored i blant oedd e a roedden ni'n ffilmio'n Llanelwedd."
Y recordiau prin (a gwerthfawr!) Cymraeg
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023

Gigio gyda Ffenestri
O Dr Who i Pobol y Cwm
Yn dilyn hynny fe dderbyniodd Martyn waith actio am bedair blynedd. O actio cymeriad Vinny ar bennod o Dr Who a ffilmwyd yn Y Barri yn 1989, i chwarae rhan newyddiadurwr i Radio Cymru ar Pobol y Cwm, i ail-greu golygfeydd trosedd ar Crimewatch, dywed Martyn "y byddai ei fywyd wedi bod yn hollol wahanol petai wedi dilyn gyrfa fel actor.
"Ond diddanu plant oedd y trywydd cywir i fi. Mae'n becyn o sgiliau eithaf unigryw. Wnes i ddim meddwl am berfformio i blant nes cael fy ngofyn i wneud cyfres o chwe sioe yn Eisteddfod yr Urdd Tonyrefail 1991.
"Hwnna newidiodd fy ngyrfa a fy mywyd i."

Martyn yn chwarae cymeriad Vinny ar Doctor Who
Cyflwyno Slot Meithrin
Ac yn Eisteddfod yr Urdd Tonyrefail 1991 fe greodd Martyn chwe sioe yn seiliedig ar gymeriadau'r Grimm Brothers a Roald Dahl. Yno'n gwylio oedd merch fach dair oed a oedd yn ysu am weld sioe arall.
"Merch fach cynhyrchwraig Slot Meithrin oedd hi," eglurai Martyn.
"Ges i fy ngwahodd i gyfweliad Slot Meithrin ym Mehefin '91, gwneud prawf sgrin byw a ges i'r job o gyflwyno Slot Meithrin am dridiau'r wythnos ym Medi '91 tan tua 1999 pan ddaeth teledu digidol, a chyflwyno Planed Plant ac yna Planed Plant Bach am gyfnod.
Fe roddodd Slot Meithrin gyfle i Martyn gyfansoddi hefyd. Mici a Mini, Sam Tân a Minnau, Aderyn Melyn a Pen-blwydd Hapus yw dim ond llond llaw o'i ganeuon cofiadwy sydd wedi rhoi hwyl a sbri i blant dros y blynyddoedd.

Martyn ar Slot Meithrin
Fe drodd ei gân Pen-blwydd Hapus yn ffenomen genedlaethol wrth i filoedd o gyfarchion pen-blwydd a lluniau gyrraedd stiwdio Slot Meithrin yn wythnosol.
"Andi Peters oedd y cyflwynydd ar ddarpariaeth y BBC i blant bach ar y pryd. Y gwahaniaeth rhwng Slot Meithrin ar S4C a'r BBC oedd y bydden ni yn dangos llun o bob plentyn oedd yn cael ei anfon draw.
"Ar y BBC roedd rhaid i'r rhieni wneud campwaith achos oedd miloedd yn fwy! Roedd hynny'n gwneud Slot Meithrin yn unigryw. Os oeddech chi'n cael eich pen-blwydd yna roedd rhaid i chi gael eich llun ar Slot Meithrin!"

Martyn a Superted. Mae gan Martyn gân enwog i Superted hefyd
Jambori Martyn Geraint
Yn ôl Martyn "does byth sicrwydd am waith teledu" a dyna pham fod teithio cylchoedd meithrin, ysgolion, a neuaddau er mwyn cynnal Jambori wedi bod "yn rhan fawr" o'i yrfa.
Ynddynt, bydd Martyn yn cyfuno ei sgiliau canu, perfformio a rhyngweithio i greu sioe hwyliog ac addysgiadol i blant.

Martyn Geraint, ei gymeriadau a'i ffrindiau mewn Jamboris dros y blynyddoedd
Martyn sy'n hel atgofion o'i Jamboris cynnar:
"Wnes i fy Jambori cynta' yn Hydref 1992 ym Merthyr Tudful gyda tua 500 o blant yn y neuadd chwaraeon. Y band oedd gen i oedd Myfyr Isaac, Graham Land a Geraint Cynan; cerddorion gorau Cymru ar y pryd!
"Y pwrpas ar y cychwyn oedd cael hwyl a newid yr agwedd at y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd fel y gogledd ddwyrain a chymoedd y de.
"Erbyn hyn dwi'n meddwl bod Llywodraeth Cymru yn neud jobyn mor dda achos does yna ddim atgasedd at y Gymraeg.
"Fe wnes i neud Jambori yng Ngwent gyda phlant di-Gymraeg dair wythnos yn ôl. Oedden nhw wedi dysgu cwpwl o ganeuon neshi 'sgwennu ac yn canu gydag ystod ac yn mwynhau.
"Y peth mawr yn fy sioeau i yw rhyngweithio gyda phlant, defnyddio props, eu cael nhw yn rhan o'r hwyl. Fe ddysges i fod hynny'n bwysig yn gyflym iawn."

Afal, oren, banana! Crys-T gyda geiriau un o ganeuon enwog Jambori Martyn Geraint
Ond mae teithio o amgylch Cymru'n cynnal un Jambori ar ôl y llall, cario a chludo'r offer a chwblhau asesiadau risg yn waith blinedig a chaled hefyd.
"Dwi ddim yn cau'r drws yn llwyr ond y cludo, y teithio a'r holl boets, sdim angen hwn arna i," eglurai Martyn.
"Mae diddanu plant yn rhodd anhygoel a faswn i wrth fy modd yn hyfforddi rywun arall i neud e."

Sioeau llawn direidi
Beth fyddai cyngor Martyn Geraint i unrhyw un sy'n awyddus i fod 'y Martyn Geraint nesaf'?
"Mae'n rhaid i ti licio plant i ddechrau, mae'n rhaid i ti beidio teimlo'n lletchwith. Mae plant yn licio chwerthin.
"Os ti'n licio'n chwerthin, ti'n y job cywir ond paid â meddwl bo' ti mynd i ennill BAFTA trwy wneud y pethau yma achos dwyt ti ddim.
"Mae hefyd yn waith amhrisiadwy, a dwi'n ddiolchgar iawn i blant Cymru. Mae wedi bod yn fraint.
"Fel roedd Wcw a finnau'n arfer canu 'Diolch iti Wcw, am y croeso mawr, diolch iti Wcw, ond mae'n rhaid i fi fynd yn awr'."

Diwedd cyfnod i Martyn Geraint
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2017
