Sut i gael gwared ar y Nadolig...

addurniadauFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Yn ddi-os, bydd 'na lanast yn eich tŷ chi erbyn hyn, a phob twll a chornel yn llawn papur lapio, addurniadau sydd wedi torri a hen deganau sydd wedi eu disodli gan rai newydd, mwy sgleiniog.

Felly sut gewch chi drefn yn ôl? Dyma beth i'w wneud gyda'ch holl stwff Nadoligaidd di-angen.

Cardiau Nadolig – yn gallu cael eu hailgylchu gyda phapur a chardfwrdd, fel yr amlenni – ond cofiwch dynnu unrhyw ychwanegiadau fel sequins, rhubanau neu ddarnau o blastig oddi arnyn nhw gyntaf.

Stampiau – mae rhain yn iawn i'w hailgylchu yn sownd i'r amlen, neu gallwch eu casglu i godi arian i elusen.

Papur lapio – dydy papur lapio ddim yn gallu cael ei roi gyda'r ailgylchu papur a chardfwrdd fel rheol - ond mae gan bob cyngor sir drefniadau gwahanol, felly ewch i wefan eich cyngor lleol chi i weld os oes trefniadau i ailgylchu papur lapio.

Dydy papur lapio sgleiniog ddim yn gallu cael ei ailgylchu o gwbl, na phapur gyda glitter arno neu llawer o rhubanau a thâp selo drosto.

papur lapioFfynhonnell y llun, Getty Images

Bubble wrap – mae biniau i ailgylchu plastig meddal yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd, felly gallwch ailgylchu'r bubble wrap yno, gyda'ch mynydd o fagiau plastig, cling film a phecynnau bisgedi.

Tâp selo – methu ei ailgylchu, felly tynnwch dâp selo oddi ar focsus cardfwrdd sy'n cael eu hailgylchu, gan roi'r tâp yn y bin cyffredinol.

Coeden Nadolig – mae gan nifer o gynghorau drefniadau er mwyn casglu coed Nadolig go iawn – edrychwch ar wefan eich cyngor lleol.

Os ydych chi eisiau cael gwared o'ch coeden artiffisial, beth am ei gynnig i siop elusen, grŵp cymunedol neu ysgol all ei ddefnyddio flwyddyn nesaf?

coeden NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images

Addurniadau – does dim modd ailgylchu tinsel, felly efallai ei bod hi'n amser i fod yn greadigol gyda'r hen dinsel sydd wedi torri, drwy eu defnyddio i greu addurniadau newydd neu labeli anrheg ar gyfer y flwyddyn nesa'.

Batris – mae angen llawer o fatris ar ddiwrnod Nadolig, ac felly efallai y bydd angen cael gwared ar rai ar ôl i'r cyfnod Nadoligaidd ddod i ben, os yw'r teganau wedi bod yn cael eu chwarae drosodd a throsodd – mae biniau ailgylchu batris yn aml i'w gweld yn eich archfarchnadoedd lleol.

Eitemau trydanol bach – goleuadau bach y goeden wedi chwythu ei blwc, neu'r hen air fryer wedi cael ei or-ddefnyddio dros gyfnod yr ŵyl? Ailgylchwch rhain yn eich canolfan ailgylchu leol, yn hytrach na'u taflu i'r bin.

Bwyd – os oes gennych chi sbarion llysiau, mae 'na ddigon o ryseitiau ar y we i'ch ysbrydoli chi, ond os ydych chi wedi dechrau diflasu ar fwydydd Nadoligaidd, cofiwch am y rhewgell!

Ac os oes gennych chi fwydydd sydd ddim wedi eu hagor, gallwch eu rhoi i fanc bwyd.

A'r gweddill...

Wedi cael yr un anrheg ddwywaith? Siwmper Nadolig y llynedd bellach ddim yn ffitio? Cist deganau'r plant yn orlawn ar ôl i Siôn Corn ymweld? Yr anrheg roddodd Hen Fodryb Neli yn eithaf hyll?

Ewch â'ch sbarion draw i siop elusen, a fydd yn siŵr o werthfawrogi eitemau glân, cyfan, sydd ddim wedi torri.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb