Sgwrs Nos Galan gydag Aleighcia Scott

- Cyhoeddwyd
O fod yn feirniad ar gyfres Y Llais, i ryddhau caneuon Cymraeg am y tro cyntaf, mae'r cyflwynydd a'r gantores Aleighcia Scott yn dweud ei bod wedi cael "blwyddyn ardderchog".
Ac i orffen blwyddyn dda, mae hi wedi mwynhau saib dros gyfnod y Nadolig er mwyn gwylio gymaint o deledu â phosib yn ei phyjamas.
A hithau bron yn flwyddyn newydd arall, Cymru Fyw fuodd yn sgwrsio gydag Aleighcia am ei huchafbwyntiau'n 2025 a'i gobeithion am 2026.
Cyn meddwl am y flwyddyn newydd, beth wyt ti'n ei fwynhau am y Nadolig Aleighcia?
Dwi'n caru'r Nadolig achos nawr mae gen i nieces a nephews a phlant-bedydd, felly dwi'n caru eu gweld nhw'n joio fe. Hefyd, dwi wrth fy modd gyda'r bwyd; siocled, cacen a chinio Nadolig efo lot o yorkshire puddings!
Beth yw dy hoff atgof Nadoligaidd?
Cael fy meicroffon cyntaf! Dwi'n meddwl o'n i'n wyth a wnes i ddim stopio canu am yr holl flwyddyn!

Erbyn hyn mae Aleighcia yn cyflwyno o flaen meicroffon Radio Wales bob nos Iau
Yn 2023 fe ddywedaist ti wrth Cymru Fyw dy fod "yn caru dysgu Cymraeg. Mae tipyn bach yn hard, dwi'n meddwl mae'n mynd yn ok".
Eleni, rwyt ti wedi rhyddhau caneuon Cymraeg am y tro cyntaf gan gynnwys Dod o'r Galon a Diolch.
Sut wyt ti'n adlewyrchu ar dy daith yn dysgu Cymraeg erbyn hyn?
Ers blwyddyn dwytha, dwi'n teimlo'n fwy gloi gyda Cymraeg fi, a dwi'n deall mwy hefyd achos dwi'n ymarfer fy Nghymraeg bob dydd gan fod e mae mor bwysig i fi.
Mae'n neis nawr i wylio teledu yn Gymraeg a gwrando ar radio yn Gymraeg a jest deall be' mae pobl yn ei ddweud. Dwi dal angen dysgu mwy ond dwi'n gweld gwahaniaeth mawr yn fy hyder i sgwrsio yn Gymraeg.
Aleighcia Scott: 'Dwi'n caru dysgu Cymraeg'
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
Sut wyt ti'n ymarfer siarad Cymraeg?
Dwi'n ymarfer gyda ffrind neu jest yn fy mhen a dwi'n gwylio teledu yn Gymraeg hefyd yn trio deall beth fyddai pobl yn ddweud. Mae gwylio Heno a Pobol y Cwm yn help mawr.
Dwi'n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a weithiau dwi'n mynd i ddosbarthiadau arlein.
Beth yw dy gyngor i ddysgwyr a siaradwyr newydd?
Cadw fynd a chael hwyl, achos dwi'n teimlo os oes gen ti sialens fyddi di'n siŵr o fynd amdani. Mae siarad Cymraeg wedi newid fy mywyd ac agor drysau newydd i fi. Dwi wedi dysgu gymaint am Gymru wrth ddysgu Cymraeg.
Beth yw rhai o dy uchafbwyntiau o 2025?
Eleni dwi wedi bod mewn lot o wahanol bethau ardderchog fel Y Llais a sioeau llwyfan, felly mae llwyth wedi digwydd flwyddyn yma.
Roedd perfformio yn Tafwyl yn uchafbwynt i fi. Roedd yr egni yn Tafwyl yn enfawr a wnes i jest teimlo fe yn dod o'r gynulleidfa.

Beth wyt ti'n edrych ymlaen ato yn 2026?
Popeth. Dwi'n edrych ymlaen i ryddhau mwy o gerddoriaeth newydd yn Gymraeg.
Fe wnes i fynd i Benrhyndeudraeth sbel yn ôl i 'neud cerddoriaeth efo Yws Gwynedd a Rich Roberts. Mae'r steil bach yn wahanol i fi on dwi mor gyffrous i bobl wrando arno fe.
Dwi'n gobeithio gwneud mwy o beth wnes i eleni ond ar scale mwy.
Dwi hefyd yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o fy sioe ar Radio Wales, mae'n teimlo fel fy mod yn cael parti bob nos Iau!

Gyda chyfres arall o Y Llais ar y gweill lle rwyt ti'n cyd-feirniadu gyda Bronwen Lewis, Yws Gwynedd a Bryn Terfel, alli di ddatgelu unrhyw gyfrinach?
Rydyn ni newydd ddechrau ffilmio cyfres dau o Y Llais a'r oll alla i ddweud ydy mae lleisiau eleni yn ardderchog. Maen nhw'n leisiau gwahanol i flwyddyn diwethaf, dwi methu aros i chi glywed nhw.

Sut fyddi di'n treulio nos galan?
Dwi jest yn mynd i fod gyda'r teulu yng Nghaerdydd y flwyddyn yma ac am drio ymlacio a joio fy amser gyda nhw.
Hefyd lot o fwyd a tiwns da! Digon o gyw iâr a tiwns sy'n rhoi vibes positif i'r flwyddyn newydd.
A does dim angen addunedau, jest cadw i fynd dwi'n meddwl!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2025
