Cyhuddo corff amgylchedd Cymru o osgoi cyfrifoldeb llygredd ffermydd ieir

Mae River Action yn cyhuddo CNC o beidio ag atal tail ieir rhag llygru Afon Gwy
- Cyhoeddwyd
Mae elusen amgylcheddol flaenllaw yn cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan eu cyhuddo o "olchi eu dwylo" o'u cyfrifoldeb i atal llygredd afonydd.
Daw yn sgil penderfyniad CNC i ganiatáu i drwyddedau tair fferm ieir ym Mhowys gael eu hymestyn ym mis Tachwedd 2025.
Mae River Action yn eu cyhuddo o beidio ag atal tail ieir rhag llygru Afon Gwy ac yn disgrifio'r penderfyniad i ganiatáu i'r unedau dofednod gael y trwyddedau fel "camddealltwriaeth ddifrifol o'r gyfraith".
Dywedodd CNC, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016, nad oes pŵer gyda'r corff i asesu na rheoleiddio tail unwaith y bydd yn gadael safle, a bod materion o'r fath yn disgyn ar awdurdodau cynllunio lleol.
Mae River Action yn dadlau bod y gyfraith yn glir bod angen iddyn nhw asesu ac atal unrhyw effeithiau llygredd posibl y tu hwnt i safle.
'Gofyn i CNC wneud ei waith yn iawn'
Mae cydlynydd cyfreithiol River Action, Christian Fuller yn dweud: "Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â chywiro penderfyniadau anghyfreithlon.
"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrtho'i hun yn anghywir nad oes ganddo'r pŵer i reoleiddio llygredd fferm y tu hwnt i ffin y fferm."
Esboniodd: "Lle mae llygredd yn ganlyniad rhagweladwy o drwydded, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei asesu a'i reoli. Felly mae gwahardd hyn yn gwneud dull CNC yn anghyfreithlon."
Mae Mr Fuller yn credu'n gryf nad ydy'r elusen yn gofyn am lawer oherwydd "dim ond gofyn i CNC wneud ei waith yn iawn fel y rheoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru yr ydym yn ei wneud".
"Mae trwyddedu amgylcheddol yn bodoli i atal llygredd amgylcheddol annerbyniol cyn i'r difrod gael ei wneud. Rhoddodd y Senedd y cyfrifoldeb hwnnw i CNC.
"Mae'r achos hwn yn ymwneud â sicrhau ei fod yn defnyddio ei bwerau i amddiffyn afonydd sensitif fel Gwy a Hafren."

Daw'r her gyfreithiol yn sgil penderfyniad CNC i ganiatáu i drwyddedau tair fferm ieir ym Mhowys gael eu hymestyn ym mis Tachwedd 2025
Mae'r tair fferm ieir wedi'u lleoli ym Mhowys, o fewn dalgylchoedd afonydd sy'n cynnwys Afon Gwy ac Afon Hafren.
Mae'r ddwy afon wedi wynebu pryderon parhaus ynghylch ansawdd dŵr.
Yn 2023, fe gafodd statws Afon Gwy ei israddio i "anffafriol - ac yn dirywio" gan Natural England, corff cyfatebol i CNC yn Lloegr.
Mae Afon Gwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae'n gartref i rywogaethau gwarchodedig fel dyfrgwn, glas y dorlan, cimychiaid crafanc gwyn ac eog yr Iwerydd.
Mae yna lawer o wahanol ffynonellau llygredd sydd wedi cyfrannu at ddirywiad y Gwy.
Mae astudiaethau gan Brifysgol Caerhirfryn wedi dangos bod tua 70% o'r ffosffad yn nalgylch Afon Gwy yn dod o amaethyddiaeth, ond nid yw hynny i gyd yn gysylltiedig ag ieir.
Pryderon am gyflwr Afon Gwy o achos ffermydd ieir
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020
Pryder am effaith siediau ieir ar amgylchedd Powys
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
Dwy lywodraeth yn rhoi £1m i ymchwilio i lygredd afon
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2025
Mae undebau amaethyddol yn dadlau bod llawer o gynhyrchwyr yn gweithredu o fewn y rheoliadau presennol a bod amaethyddiaeth yn cael ei feio am effeithiau amgylcheddol ehangach.
Dywedodd llefarydd ar ran CNC eu bod "yn ymwybodol bod River Action wedi cychwyn achos ar gyfer adolygiad barnwrol ac rydym yn aros am y dogfennau perthnasol".
Ychwanegon nhw na fyddan nhw'n rhoi unrhyw sylwadau pellach, "gan fod y broses gyfreithiol bellach wedi cychwyn yn ffurfiol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.