Ffurfio eisteddfodau lleol newydd er gwaethaf heriau ariannol

Côr Dur a Môr yn ymarfer mewn neuadd ysgol gynradd. Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr eisteddfodau newydd yn arbed costau teithio i'r côr newydd yma

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl leol yng Nghwm Tawe a Chastell-nedd yn gobeithio parhau â gwaddol Eisteddfod yr Urdd eleni wrth sefydlu dwy eisteddfod leol newydd.

Bydd eisteddfodau cymoedd Tawe a Nedd yn cael eu cynnal yn 2026, mewn ardaloedd sydd â llai o siaradwyr Cymraeg.

Mae cadeirydd Eisteddfod Cwm Tawe yn cydnabod yr "heriau ariannol" maen nhw wedi'i wynebu wrth sefydlu eisteddfod leol o'r newydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "ar dir i drafod" rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol o'r flwyddyn ariannol nesaf.

Fe enillodd Hedd Wyn y gadair yn Eisteddfod Pontardawe yn 1915
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Hedd Wyn y gadair yn Eisteddfod Pontardawe yn 1915

Fe enillodd Hedd Wyn y gadair yn Eisteddfod Pontardawe yn 1915 - dros ganrif yn ddiweddarach bydd y traddodiad yn dychwelyd i'r pentref fis Chwefror nesaf.

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Cwm Tawe, Gwenno Ffrancon, yn cydnabod bod yna "heriau" wrth sefydlu eisteddfod o'r newydd.

"Ni mewn ardal o sensitifrwydd ieithyddol, mae'r traddodiad yn sicr wedi bod yma yng Nghwm Tawe o ran y Gymraeg, mae yna gryfder yma ond mae angen atgyfnerthu fe," meddai.

"Ni nawr yn trio sicrhau bod yr ymwybyddiaeth yn codi, bod yna ddealltwriaeth o beth yw eisteddfod a'i bod ar gael i bawb."

Mae'r pwyllgor gwaith wedi bod yn trefnu digwyddiadau i godi arian at yr eisteddfod yn ogystal â gofyn i fusnesau lleol am roddion. Ond yn ôl Gwenno Ffrancon roedd hi'n anodd dod o hyd i grantiau.

"Dyw e ddim wedi bod yn hawdd i ganfod cronfeydd sy'n galluogi cefnogi'r math yma o weithgaredd. Ni'n werthfawrogol o gefnogaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

"Ni wedi troi at gymdeithasau a sefydliadau sy'n cefnogi'r Gymraeg, mae 'na gefnogaeth yna ond mae'n dipyn o waith i fynd i chwilio amdano fe."

Rhys Griffiths mewn sbectol a siwmper cochFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Eisteddfod Nedd yw denu dysgwyr i gystadlu, yn ôl Rhys Griffiths

Mae Sir Castell-nedd Port Talbot wedi gweld gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y degawd diwethaf.

Yn ôl y cyfrifiad, aeth canran y siaradwyr Cymraeg o 15.3% yn 2011, i 13.5% yn 2021.

Dywed Rhys Griffiths, Cadeirydd Eisteddfod Nedd, bod "wir angen" yr eisteddfod leol hon yn ardal Nedd.

"Mae 'na gymaint o dalent yn yr ardal, talent ifanc a thu hwnt, felly gobeithio gallwn ni rhoi llwyfan i ddatblygu'r talentau yna."

Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr greu hanes wrth gael y nifer uchaf o ddysgwyr yn cystadlu. Gobaith Rhys Griffiths yw i gynnal y gwaddol hwnnw.

"Y penderfyniad tu ôl i leoli'r eisteddfod yn un o ysgolion Saesneg y dref oedd y ffaith bod y cystadlu i ddysgwyr yn Eisteddfod Dur a Môr wedi bod mor llwyddiannus.

"Oedd hi'n record i'r rhanbarth lleol faint o ysgolion Saesneg oedd wedi cystadlu. Ni eisiau adeiladu ar hynny."

Gwen Shenton yn gwenu mewn ffrog polka dot du a gwynFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gwen Shenton bydd yr eisteddfodau'n gyfle i'w chôr newydd i ddatblygu

Fe sefydlodd Gwen Shenton o Gimla Gôr Dur a Môr ar gyfer oedfa Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai eleni.

Er ei bod yn cyfaddef nad yw dechrau côr newydd "byth yn hawdd" mae'n credu ei bod yn hynod bwysig cynnal digwyddiadau'n lleol i sicrhau "digon o gyfleoedd" i gystadlu a pherfformio.

"Ni'n gôr sydd eisiau sicrhau bod gyda ni'r cyfleoedd gorau posib ac mae popeth yn costio arian. Mae popeth yn gostus felly y mwyaf ni'n gallu gwneud pethau yn ein hardal ni y gorau oll."

Er mwyn bod yn gymwys i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel côr newydd mae'n ofynnol bod y côr wedi cystadlu mewn dwy eisteddfod leol.

Mae'r eisteddfodau newydd yn yr ardal yn golygu arbed costau teithio i eisteddfodau sydd ymhellach i ffwrdd, yn ôl Gwen Shenton.

"Mae'r eisteddfodau lleol sydd wedi bodoli ers blynyddoedd mewn ardaloedd sy'n bell wrthon ni. Felly mae'r ffaith bod rhain yn agos ac yn ein cymoedd ni yn rhoi cyfle i ddangos bod 'na gynrychiolaeth o'r ardal."

Sian Evans mewn blows patrymog gwyrdd a du.Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sian Evans bod cael cefnogaeth ariannol ychwanegol i eisteddfodau lleol yn hynod werthfawr

Yn ôl Sian Evans, Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, mae gwaddol Eisteddfod Dur a Môr yn profi'r "pwysigrwydd bod eisteddfodau yn parhau i deithio i bob math o ardaloedd".

"Mae'n newyddion gwych. Mae gennym ni dros 120 Eisteddfod yn digwydd yn flynyddol trwy Gymru. Mae'n grêt gweld nid yn unig eisteddfod newydd ond cymunedau yn cael eu ffurfio."

Ychwanegodd byddai gwerth mewn cefnogaeth ariannol ychwanegol wrth ystyried bod rhai yn "ofni baich y gost".

"Mae popeth yn her ar hyn o bryd ond rydym ni fel cymdeithas yn barod i helpu unrhywun sydd eisiau sefydlu neu ailsefydlu eisteddfod leol ond mae angen bod yn wyliadwrus achos mae pethau yn gostus."

Theatr Canolfan y Celfyddydau, Pontardawe, golau glas ar y llwyfan
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan y Celfyddydau Pontardawe fydd cartref Eisteddfod Cwm Tawe ym mis Chwefror

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu grant o £58,850 i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru i ddatblygu eisteddfodau bach.

"O'r flwyddyn ariannol nesaf, byddwn ni ar dir i drafod ariannu gwaith ein partneriaid grant dros gyfnod o dair blynedd ariannol ac rydym yn edrych ymlaen at drafod y rhaglen waith newydd hon gyda Chymdeithas Eisteddfodau Cymru," medd llefarydd.