Llysiau yn anrheg Nadolig i bawb mewn pentref ym Môn

Mae Liz a'i mab Stephen wedi bod yn rhoi bagiau o lysiau i bawb yn eu pentref
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion mewn pentref ym Môn wedi derbyn anrheg Nadolig annisgwyl eleni.
Roedd pentrefwyr yn Llanfachraeth ger Bodedern wedi bod yn rhoi negeseuon ar-lein yn dweud fod bagiau llawn llysiau wedi ymddangos ar garreg eu drws.
Liz Mangan a'i theulu, sy'n rhedeg tafarn leol, sy'n gyfrifol am rannu'r cynnyrch.
Dywedodd Ms Mangan ei bod yn awyddus i "wneud pethau i bobl eraill", yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.

Mae Liz wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen i'r archfarchnad ers dyddiau bellach
"Mae'n gymuned mor dda, nid Llanfachraeth yn unig, ond y pentrefi bach o'i chwmpas hefyd," meddai Liz, sydd wedi bod yn rhedeg tafarn y pentref ers degawd bellach.
Mae hi'n codi arian yn aml i elusennau, ond eleni roedd hi'n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i bobl yn ei chymuned.
"Doedd dim rheswm penodol, dwi jystyn hoffi gwneud pethau i bobl eraill.
"Nes i golli fy mam ym mis Medi a hi oedd fy rheswm i wneud pethau - ro'n i'n arfer gofalu amdani a nes i golli ychydig o bwrpas.
"'Da ni'n gwneud pethau beth bynnag i'r gymuned drwy gydol y flwyddyn, ond roedd yna fwy o bwrpas eleni i wneud rhywbeth oedd hefyd yn gwneud i mi deimlo'n dda - ac mae'n gwneud hynny, mae'n gwneud i mi deimlo'n dda."

Mae Liz a'i mab wedi bod yn mynd o amgylch pob tŷ yn y pentref
Roedd Liz hefyd yn awyddus i ddangos i'w phlant pa mor bwysig oedd rhoi yn ôl i bobl leol.
"Mae'n dangos i'r plant y gallan nhw wneud pethau fel 'na hefyd," meddai.
"'Da ni wedi gwneud tua 146 [o dai] mae gen i 15 bag ar ôl fel rhai ychwanegol rhag ofn... yna fe fydda i'n rhoi neges ar-lein os oes unrhyw un wedi methu cael un, yna gallan nhw ddod i'w gasglu.
"Mae'r croeso wedi bod yn hollol wych ac mae'n codi ysbryd pobl.
"Oherwydd ei bod hi'n Nadolig mae popeth mor ddrud ac mae pobl yn ei chael hi'n anodd... gallwch chi weld eu bod nhw mor ddiolchgar amdano a dwi'n meddwl bod hynny'n hyfryd a dyna o'n i eisiau gwneud."

Mae Stephen wedi bod yn helpu ei fam i ddanfon y llysiau, ac yn dweud fod pobl yn ddiolchgar
Mae Stephen ei mab wedi mwynhau rhoi help llaw i'w fam yn danfon y bagiau llysiau o amgylch y pentref.
"'Da ni wedi bod yn mynd â llysiau rownd Llanfachraeth i bobl - moron, tatws, rwdan, brocoli a sbrowts," meddai.
"Mae pobl wedi bod yn ddiolchgar ac maen nhw'n hapus iawn efo be' 'da ni'n 'neud."
'Pawb wedi gwirioni efo hi'
Ar drothwy'r Nadolig, mae nifer o bobl leol wedi bod yn dweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw i dderbyn y llysiau gan Liz a'r teulu.
Yn eu plith mae Donna Owen, ddywedodd: "Mae hi'n brilliant dydi, does 'na ddim diwedd iddi.
"Mae hi'n brysur yma, mae ganddi deulu ei hun ac mae hi dal yn 'neud pethau i'r gymuned.
"Dwi'n meddwl fod pawb wedi gwirioni efo hi, mae jest yn dda, dio'm ots pa bryd, maen nhw'n 'neud rhywbeth i'r gymuned - 'sa neb yn cael eu gadael allan yma.
"Dwi'n edrych ymlaen at ddiwrnod 'Dolig, edrych ymlaen at gwcio llysiau Liz."

Mae Donna Owen yn ffrind i Liz ac yn dweud ei bod yn edrych ymlaen at goginio'r llysiau mae hi wedi'u cael ganddi
Roedd Richard Roberts, sy'n byw yn y pentref, hefyd yn falch o gael pecyn ganddi.
Dywedodd: "Mae hynny'n beth da iawn i'r gymuned i ddeud y gwir, ac mae hi'n 'neud job dda efo fo chwara' teg.
"Doedd dim rhaid iddi 'neud o, ond mae hi wedi mynd allan o'i chalon ei hun i wneud o.
"Mae pawb yn falch ofnadwy ohono, da iawn hi faswn i'n ei dd'eud, chwara' teg iddi.
"Adeg caled o'r flwyddyn, mi fydd pawb yn falch bod hi wedi 'neud o, mae lot o bobl yn mynd heb fwyd dyddiau yma."
'Mae hi'n anhygoel'
Gyda nifer yn gweld yr adeg yma o'r flwyddyn yn heriol, mae cynghorydd lleol yn dweud fod yr hyn mae Liz wedi'i wneud wedi "codi ysbryd" y gymuned.
Dywedodd Jackie Lewis, cynghorydd sir dros ward Talybolion: "I ddeud y gwir yn onest, doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd.
"Mi oedd bagiau o lysiau yn cael eu gadael tu allan i ddrysau pobl, a dyma fi'n digwydd edrych ar Facebook a gweld mai Liz oedd wedi bod yn mynd o gwmpas.

Mae ymgyrch Liz wedi codi ysbryd y gymuned yn ôl un cynghorydd lleol
"Mae hi'n anhygoel, nid hyn ydi'r unig beth mae hi'n ei wneud i'r pentref.
"Mae hi wedi bod yn y siopau, prynu'r llysiau eu pacio ei hun ac mae hi wedi bod yn mynd â nhw o gwmpas - 'da ni isio diolch yn ofnadwy iddi.
"Dwi'n meddwl fod pobl wedi bod yn meddwl 'pwy sydd wedi bod' a bod Siôn Corn wedi dod yn fuan dwi'n meddwl!
"Mae'n dangos ewyllys da... nid yn unig mae'n helpu pobl efo'u cinio 'Dolig, ond mae wedi helpu codi'r ysbryd yma hefyd sy'n angenrheidiol mewn adegau fel hyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.