Llywodraeth Cymru i edrych ar rymoedd cynghorau - Rhun ap Iorwerth

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
GanElliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y grymoedd sydd gan gynghorau a sut mae awdurdodau'n cydweithio'n rhanbarthol, yn ôl y Prif Weinidog.

Mewn araith ym Mhrifysgol Caerdydd, dywedodd Rhun ap Iorwerth y gallai arwain at ddeddfwriaeth newydd ar ôl yr etholiad nesaf yn 2030.

Mae disgwyl iddo gyfarfod â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Andy Burnham yn ddiweddarach y mis hwn, sydd o'r farn y dylai gweinidogion yng Nghaerdydd drosglwyddo mwy o bwerau i awdurdodau lleol.

Gwadodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn cynnig hyn yn gyfnewid am fwy o bwerau a chyllid i Lywodraeth Cymru.

'Dylai Cymru symud tuag at system lywodraethu lleol a rhanbarthol'

Yn yr un araith, galwodd y Prif Weinidog ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i ddyblygu gwaith datblygu economaidd Llywodraeth Cymru.

Gan ddadlau bod angen datganoli grymoedd pellach er mwyn "sicrhau y gall penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru gael eu gwneud gan y rhai sydd fwyaf uniongyrchol atebol iddyn nhw".

"Er fy mod yn glir na ddylem byth gymryd yn ganiataol y bydd yr hyn sy'n gweithio i Loegr yn gweithio i Gymru, ac i'r gwrthwyneb – ac rwy'n gobeithio bod y Prif Weinidog yn cydnabod hyn – rwy'n gwybod nad yw ein trefniadau presennol yn berffaith chwaith," meddai.

"Rwy'n argyhoeddedig, dros amser, y dylai Cymru symud tuag at system lywodraethu lleol a rhanbarthol sy'n fwy cydlynol ac wedi'i symleiddio.

"Ond na ellir gorfodi'r weledigaeth honno."

Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth addo papur gwyrdd erbyn diwedd ei dymor fel prif weinidog, a fyddai'n cael ei ddilyn gan yr "opsiwn" o ddeddfwriaeth newydd gan y llywodraeth nesaf.

Dywedodd y byddai mewn "sefyllfa dda i ystyried beth sy'n gweithio a lle mae angen newid" erbyn diwedd y tymor, ond nododd fod yn rhaid i'r "sgwrs" ddechrau cyn hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n "ymarfer manwl ac ystyrlon, sy'n adlewyrchu ble dylai grymoedd a chyfrifoldebau penodol fod, sut mae gweithio rhanbarthol yn gweithio orau, a sut olwg sydd ar gydweithio effeithiol".

Mae Rhun ap Iorwerth wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog o'r blaen yn galw ar Gymru i gael yr un grymoedd â'r Alban – gan gynnwys rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder.

Pan ofynnodd BBC Cymru os oedd yn ceisio cynnig datganoli pellach o fewn Cymru i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn y gobaith o gael rhywbeth yn ôl ganddo, dywedodd Mr ap Iorwerth mai "siarad am ddatganoli yn Lloegr mae Andy Burnham i bob pwrpas, dwi'n credu mewn grymuso cymunedau yng Nghymru a wastad wedi gwneud hynny.

"Os oes 'na rhyw fath o dir cyffredin yn hynny, a mod i'n gallu perswadio Andy Burnham a dweud 'gwranda mae 'na bethau da ni angen ei wneud yng Nghymru o gwmpas y fargen newydd ar bwerau a chyllid, a rŵan y cytundeb yma ar dwf, gad i ni weithio efo'n gilydd."

'Datgloi potensial economaidd Cymru'

Mae datblygu economaidd yng Nghymru wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond dywedodd Mr ap Iorwerth fod Cymru yn byw gyda system sy'n "ddryslyd".

"Mae cyfres o raglenni gan Lywodraeth y DU wedi'u gosod ar ben cyfrifoldebau datganoledig, ac mewn rhai achosion, maen nhw'n tanseilio'r cyfrifoldebau hynny.

"Mae rhai wedi ariannu prosiectau gwerthfawr. Mae rhai wedi dod â budd gwirioneddol. Ond, o'u hystyried gyda'i gilydd, maen nhw wedi gwneud y sefyllfa'n fwy cymhleth, yn fwy tameidiog."

Gan gyfeirio at brosiectau llywodraeth Prydain fel y gronfa ffyniant bro, dywedodd, "os yw pwerau wedi'u datganoli, ni ddylai'r llywodraeth ganolog barhau i ddyblygu'r pwerau hynny," meddai.

Galwodd am "gytundeb ymarferol ynglŷn â sut y gall ein dwy lywodraeth weithio gyda'i gilydd i ddatgloi potensial economaidd Cymru".

Pan ofynnwyd iddo egluro'r pwynt yn ddiweddarach, dywedodd nad oedd yn awgrymu cael gwared ar fargeinion dinas a thwf – sef cytundebau rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol i helpu i ariannu prosiectau lleol.

Mae pedwar ohonynt yng Nghymru.

"Beth bynnag sydd gennym, gadewch i ni edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda a sut y gallwn ei wella," meddai'r Prif Weinidog.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.