'Risg o roi ag un llaw a chymryd â'r llall wrth newid system treth y cyngor'

Mae disgwyl i'r gwaith o ailbrisio gwerth eiddo ddigwydd yn 2028 - oni bai fod newidiadau'n cael eu cyflwyno
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd cyngor yn rhybuddio y gallai fod "risg o roi gydag un llaw a chymryd â'r llall" os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â diwygio treth y cyngor.
Mae disgwyl cyhoeddiad ddydd Mawrth ac mae llywodraeth Plaid Cymru wedi dweud bod angen diwygio'r system dreth gyngor bresennol a'i gwneud yn fwy teg.
Mae swm y dreth gyngor sy'n cael ei dalu yn seiliedig ar werth hanesyddol eiddo, a gafodd ei brisio ddiwethaf yng Nghymru 23 mlynedd yn ôl.
Y feirniadaeth yw bod y dreth yn annheg gan ei bod yn rhoi baich uwch ar gyllid teuluoedd tlotach o'i gymharu â rhai cyfoethocach.
Treth y cyngor: Ystyried a ddylid bwrw ymlaen â newidiadau
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Treth y cyngor: Gohirio newid tan 2028
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
Mewn sgwrs ar raglen Politics Wales, fe gytunodd y Cynghorydd Rob Stewart, arweinydd Llafur Cyngor Abertawe ac is-arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y gallai'r system bresennol fod yn decach.
"'Dan ni'n cefnogi'r egwyddor fod y rhai sy'n gallu fforddio yn talu'r baich trymaf, yn hytrach na'r teuluoedd hynny sy'n ei chael hi'n anodd," dywedodd.
"Ond yr hyn 'dan ni ddim am ei weld ydy sefyllfa lle mae ganddon ni system sydd ddim mewn gwirionedd yn decach nac yn arwain at filiau is o ran y dreth gyngor i'r teuluoedd hynny sy'n brwydro."
'Mae rhai risgiau go iawn yn hyn'
Ychwanegodd: "'Dan ni hefyd yn pryderu ynglŷn â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio adolygu'r fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu cynghorau Cymru.
"Felly, wrth drafod y ddau beth mi allwn ni ddod i sefyllfa lle mae pobl yn dal i dalu mwy ar eu treth gyngor, ond bod gan gynghorau lai o arian i ddelio gyda'r pwysau maen nhw'n eu gweld.
"Mae rhai risgiau go iawn yn hyn, a 'dan ni'n pryderu y byddwn ni'n gweld mwy o bwysau'n cael ei drosglwyddo o drethi cenedlaethol i drethi lleol, a dydyn ni ddim eisiau gweld y baich treth yn cynyddu i drigolion lleol.
"Fy mhryder i yw y gallen nhw roi gydag un llaw a chymryd â'r llall, ac efallai na fydd y bobl sy'n byw mewn cartrefi bychain, ar y cyfan, mewn lle gwell."

Yn 2003 y cafodd eiddo ar draws Cymru eu prisio ddiwethaf, at ddibenion gosod treth y cyngor
Roedd y Llywodraeth Lafur flaenorol wedi ystyried ailbrisio eiddo a newidiadau i fandiau treth y cyngor, ond cafodd y penderfyniad ei ohirio.
Nid yw'n glir beth fydd gan Weinidogion i'w ddweud ddydd Mawrth, ond mae disgwyl i eiddo gael eu hailbrisio yn 2028 oni bai fod newidiadau'n cael eu cyflwyno.
Mae llywodraeth Plaid Cymru hefyd wedi comisiynu adolygiad o'r ffordd y mae llywodraeth leol yn cael ei hariannu yng Nghymru.
Mae'r llywodraeth wedu dweud ei bod eisiau cyflwyno diwygiadau fel bod y fformiwla'n adlewyrchu'n well cost darparu gwasanaethau fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru.
Mae newid i'r dreth cyngor yn un o'r ychydig ddulliau sydd ar gael i weinidogion ym Mae Caerdydd a allai gael effaith sylweddol ar gyllid aelwydydd.

Mae sicrhau system treth cyngor decach ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd eleni, medd Joe Rossiter, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
Dywedodd Joe Rossiter, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, y byddai'n anodd i weinidogion Plaid Cymru osgoi bwrw ymlaen â newid.
"Mae'n haws honni bod y system yn annheg pan nad oes angen i ti wneud y penderfyniadau anodd ynghylch gwneud i bobl dalu mwy o dreth," dywedodd.
"Does dim angen i ti wneud hynny pan ti yn wrthblaid.
"Mae'n rhan o faniffesto Plaid Cymru i greu system dreth gyngor fwy teg.
'Felly, os bydden nhw'n camu'n ôl o ailbrisio fel y cam cyntaf i wneud y dreth gyngor yn decach, dwi ddim yn siŵr sut y bydden ni'n dehongli hynny mewn unrhyw ffordd heblaw am newid safiad o'u ffocws blaenorol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.