Cymru'n croesawu 'uchafbwynt' y byd golff i chwaraewyr ag anabledd

Richie Willis, dyn gwallt gwyn mewn top glas a shorts du, yn chwarae golff - coes brosthetig yw ei goes ddeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwarae golff wedi bod yn llesol i Richie Willis ers colli ei goes mewn damwain lori

GanCarl Roberts
Chwaraeon BBC CymruYn gohebu oGwesty'r Celtic Manor, Casnewydd
  • Cyhoeddwyd

Tra bydd Rory McIlroy, Scottie Scheffler a gweddill golffwyr gorau'r byd yn paratoi i gystadlu ym mhencampwriaeth y PGA yn Philadelphia mae golffwyr talentog gydag anableddau yn cystadlu yng ngwesty'r Celtic Manor yn un o brif gystadlaethau'r gamp.

Mae'r gwesty wedi cynnal Cwpan Ryder yn 2010 a Phencampwriaeth Agored Cymru ar gylchdaith golff DP World ar sawl achlysur, ond does dim pencampwriaeth fawr ryngwladol wedi ei leoli yno ers 2021.

Ond y Celtic Manor fydd cartref pencampwriaeth agored G4D , dolen allanolar gyfer golffwyr am y dair blynedd nesaf.

Bydd 80 o'r golffwyr mwyaf talentog gydag anableddau yn cystadlu yn y bencampwriaeth sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth gyda'r R&A, corff llywodraethol y gêm, a hefyd cylchdaith golf DP World.

Tra bod Tiger Woods ac eraill wedi cystadlu ar gwrs y gwesty yn 2010 bydd y bencampwriaeth yr wythnos hon yn cael ei chwarae ar gwrs y Roman Road.

Dynion a merched o 25 o wledydd y byd sy'n cystadlu. Ville Enqvist o Sweden yw'r cystadleuydd ieuengaf yn 16 oed a Shigeru Kobayashi o Japan yw'r hynaf yn 70 oed.

Bydd y brif wobr - fel yr hyn sy'n digwydd mewn pencampwriaethau golff traddodiadol - yn cael ei rhoi am y sgôr isaf dros y tair rownd ddydd Iau, ddydd Gwener a ddydd Sadwrn, ac mae yna naw categori arall ar sail anableddau'r chwaraewyr.

Brendan Lawlor o Iwerddon a Daphne van Houten o'r Iseldiroedd oedd enillwyr y llynedd.

'Golff yn golygu popeth i mi'

Un sy'n cystadlu yn y digwyddiad am y tro cyntaf yw Richie Willis o Gasnewydd, sy'n 68 oed.

Collodd ei goes dde a bu bron iddo farw mewn damwain tra'n gyrru lori ar Bont Hafren yn 1999, gan dreulio pum mis yn yr ysbyty.

Mae wedi colli rhan isaf ei goes dde ac yn cyfaddef ei fod yn lwcus i fod yn fyw wedi'r ddamwain, ond mae'n dweud fod chwarae gollf yn rhoi modd iddo fyw.

Richie Willis yn paratoi i daro'r bêlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richie Willis yn byw tua milltir o westy'r Celtic Manor

Yn aelod o glwb golff y Celtic Manor, mae Richie wedi chwarae ar gwrs y Roman Road dros 3,000 o weithiau sydd wedi ei alluogi i ostwng ei handicap i 6.

"Dwi'n falch iawn o hwnna," meddai.

"Mae golff wedi golygu popeth i mi. Dywedes i pe taswn i'n cael anaf a methu cymryd rhan mewn chwaraeon, fyswn i ddim wir eisiau bod yma.

"Mae golff wedi rhoi'r gallu i mi gystadlu, chwarae gyda ffrindiau a cadw'n ffit i raddau.

"Mae'n wych i mi o ran fy lles hefyd."

'Stag do' yn Nashville ac e-bost munud olaf

Bydd Dylan Baines o Benpedairheol yng Nghwm Rhymni yn cystadlu dros y tridiau nesaf ar ôl derbyn e-bost hwyr gan y trefnwyr.

Daeth y neges wedi iddo ddychwelyd o stag do chwe niwrnod yn Nashville.

"Dyw'r paratoadau heb fod yn ddelfrydol!" meddai.

"Roeddwn i'n isel iawn ar y rhestr eilyddion... ond pan ddaeth yr e-bost i gadarnhau fy lle dwi wedi bod yn ymarfer a chwarae bob dydd ers hynny."

Dylan Baines yn ymarfer ar gwrs y Roman Road yn y Celtic ManorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dylan Baines o Benpedairheol ddamwain car yn 2017

Cafodd Dylan ddamwain car yn 2017 yn 22 oed, a doedd doctoriaid ddim yn disgwyl iddo allu cerdded eto.

Er iddo golli nerth yn ochor chwith ei gorff mae o wedi ennill cystadleuaeth golff ym Mhortiwgal ac mae ganddo handicap o 9.

Mae'n rhad ac am ddim i wylio'r bencampwriaeth dros y tridiau nesaf, ac mae'r chwaraewyr yn chwarae i safon uchel iawn - mae o werth ei weld.

Kevin Barker o'r R&AFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Barker o'r R&A: 'Dyma uchafbwynt y gamp i chwaraewyr gydag anableddau'

Ar ôl tair blynedd yng Nghlwb Golff Woburn, ym Milton Keynes, mae'r bencampwriaeth agored G4D yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.

Mae'r bencampwriaeth yn dod dan ofal corff llywodraethol yr R&A (Royal & Ancient Golf Club of St Andrews) a chylchdaith DP World.

"Dyma uchafbwynt y gamp i chwaraewyr gydag anableddau," yn ôl Kevin Barker o'r R&A.

"Mae'r R&A am weld golff yn adlewyrchu'r gymdeithas, beth bynnag eich rhyw, rhywedd, ethnigrwydd, os ydych yn abl neu'n anabl - rydym am i bobl feddwl bod golff yn gêm iddyn nhw.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddangos yr hyn y gall golffwyr ag anabledd ei wneud."

Pynciau cysylltiedig