Cyn-fatiwr Morgannwg a Lloegr, Hugh Morris, wedi marw

Hugh MorrisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gynrychiolodd y batiwr o Gaerdydd dimau Morgannwg a Lloegr ac roedd yn gyn-brif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae Hugh Morris, y batiwr a gynrychiolodd dimau Morgannwg a Lloegr, wedi marw yn 62 oed.

Roedd e hefyd yn gyn-brif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

Fe gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Ionawr 2022 ac fe adawodd ei rôl fel prif weithredwr Morgannwg yn 2023 er mwyn treulio amser gyda'i deulu wrth iddo gael triniaeth.

Fe gafodd y batiwr ddau gyfnod fel capten Morgannwg ac ef oedd wrth y llyw pan enillon nhw'r gynghrair undydd yn 1993.

Cynrychiolodd dîm Lloegr deirgwaith yn ystod ei yrfa a bu'n gapten ar dîm Lloegr A sawl gwaith gan gynnwys ar deithiau i Dde Affrica, India'r Gorllewin a Sri Lanka.

Ar ôl ymddeol fe dreuliodd y Cymro 16 o flynyddoedd yn gweithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Hugh MorrisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hugh Morris yn gapten ar dîm Lloegr A a chafodd ddau gyfnod fel capten tîm Morgannwg

Yn ystod ei gyfnod fel prif weithredwr yr ECB fe oruchwyliodd gyfnod llwyddiannus dîm prawf dynion Lloegr - enillon nhw dair o gyfresi'r Lludw yn olynol.

Fe ddychwelodd i Gymru wedyn fel prif weithredwr Morgannwg a threulio naw mlynedd yno.

Yn ystod ei gyfnod yno fe helpodd i ostwng nifer y dyledion ariannol ac fe sicrhaodd mai Gerddi Soffia fyddai un o'r stadiymau i gynnal cystadleuaeth 'The Hundred'.

Hugh Morris yn gwylio gem MorgannwgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Mr Morris ei ymddangosiad cyntaf dros Forgannwg yn 17 oed tra roedd yn Ysgol Blundell's yn Nyfnaint

Roedd Mr Morris hefyd yn noddwr yr elusen 'Heads Up' - elusen sy'n cefnogi ymchwil i ganser y pen a'r gwddf.

Penderfynodd wneud hyn ar ôl goroesi diagnosis o ganser y gwddf yn 2002 - doedd ei ddiganosis canser yn 2022 ddim yn gysylltiedig â'r diagnosis blaenorol.

Fe gafodd MBE yn 2022 am ei wasanaethau i griced ac amrywiol elusennau, ac ym mis Medi 2024 fe gafodd ei gynnwys yn oriel anfarwolion chwaraeon Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig