Arestio 600 wedi ymgyrch i fynd i'r afael â gweithio anghyfreithlon

Cafodd 1,320 o gyrchoedd eu cynnal yng Nghymru yn 2025
- Cyhoeddwyd
Cafodd 649 o bobl eu harestio yng Nghymru yn 2025 fel rhan o ymgyrch gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â gweithio'n anghyfreithlon.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y cyrchoedd ac arestiadau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dywed gweinidogion fod y "busnesau amheus" yn cynnwys siopau trin gwallt, mannau golchi ceir, salonau trin ewinedd a bwytai.
Mae'r llywodraeth yn dweud bod y camau'n rhan o ymdrech ehangach i adfer y system fewnfudo ac i fynd i'r afael â'r economi ddu.
'Tanseilio busnesau cyfreithlon yng Nghymru'
Cafodd 1,320 o gyrchoedd eu cynnal yng Nghymru yn 2025 - cynnydd o 103% o'i gymharu â 2024.
Fe arweiniodd hynny at 649 o arestiadau - sy'n gynnydd o 85%.
Dywed Llywodraeth y DU fod yr "ymosodiad ar weithio anghyfreithlon" yn adeiladu ar waith i "adfer trefn" i'r system fewnfudo.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod am chwalu apêl gweithio'n anghyfreithlon - sy'n cael ei ddefnyddio gan gangiau i werthu llefydd ar gychod bach.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens: "Mae gweithio anghyfreithlon yn cynnal yr economi ddu ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon yng Nghymru.
"Roedd y llywodraeth yma'n yn glir y byddwn yn atal pobl a chwmnïau sy'n torri'r rheolau ac rydym wedi cyflawni hyn drwy osod record o ran gweithgaredd gorfodaeth ar hyd Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd27 Hydref 2025
