Methu defnyddio rhoddion sy'n cael eu difetha y tu allan i siopau elusen

Os ydy eitemau'n cael eu gadael y tu allan mae siawns dda na fydd modd eu defnyddio o gwbl yn ôl elusennau
- Cyhoeddwyd
Mae bagiau du o nwyddau sy'n cael eu gadael y tu allan i siopau elusennau adeg yma'r flwyddyn yn gwlychu gymaint does dim modd eu defnyddio, meddai elusennau.
Ar ddechrau blwyddyn newydd mae nifer yn tacluso eu cartrefi ac yn cael gwared ar anrhegion Nadolig sydd ddim wedi taro deuddeg - felly mae llawer o roddion.
Ond gyda'r tywydd yn aml yn wael mae bagiau sy'n cael eu gadael y tu allan i'r siopau'n cael eu difetha, a'r elusennau eu hunain wedyn yn wynebu costau uchel wrth gael gwared arnyn nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu "ewyllys da" pobl sydd am wneud rhoddion ond y dylai hynny "bob amser gael ei wneud yn gyfrifol, gan fod tipio anghyfreithlon yn drosedd".
Mae awdurdodau lleol hefyd yn nodi bod yna oblygiadau i adael bagiau du y tu allan i siopau elusennau - fe all unrhyw un sy'n cael ei ddal yn tipio'n anghyfreithlon wynebu dirwy o hyd at £400.

Mae Lesley Reynolds yn dweud bod mwy a mwy o roddion yn cael eu gadael y tu allan i'r siopau
Ond yn ychwanegol at y gwastraff mae'n achosi straen diangen i'r elusennau.
Yn hytrach na gwario arian ar yr achosion da y maen nhw'n eu cefnogi, mae angen gwario arian ar y broses o gael gwared ar yr eitemau gwlyb.
"Fe gafon ni gar yn ddiweddar yn stopio y tu allan i'n giât, ac fe daflon nhw bedwar bag du o focsys DVD gwag er ein bod ni ar agor," meddai Lesley Reynolds, sy'n rhedeg warws elusen, Waste Not Want Not yn ardal Oakdale, Caerffili.
"Mae'n anghyfrifol", meddai.

Mae tipio anghyfreithlon yn digwydd yn rheolaidd y tu allan i The Magic Cottage yn ôl y perchennog
Ychwanegodd bod "pentyrrau o bethau'n blocio'r drws" ar ôl i staff ddychwelyd wedi'r Nadolig.
Ms Reynolds hefyd yw cyfarwyddwr The Magic Cottage, sydd â siop elusen yn Y Fenni, Sir Fynwy, a dywedodd bod tipio anghyfreithlon yn digwydd yno'n rheolaidd.
"Maen nhw'n gadael popeth ac unrhywbeth", meddai.
"Does dim angen gadel y rhoddion y tu allan, byddwn ni'n cymryd beth bynnag y gallwn ni."
Mae'r rhan fwyaf o roddion yn dod cyn y Nadolig, esboniodd, gyda rhieni'n aml yn dod â theganau y gellir eu gwerthu ymlaen fel anrhegion.
"Mae'n bleser agor bag chi'n gwybod y gallwch chi ei ddefnyddio."

Dywedodd Lesley Reynolds eu bod yn cael y rhan fwyaf o'u rhoddion cyn y Nadolig ac mae modd eu gwerthu ymlaen wedyn fel anrhegion
Yr un yw'r broblem ym Mhontypridd gyda staff siop elusen Hope Rescue yn dweud eu bod yn delio â nifer o eitemau gwlyb ar ôl iddyn nhw gael eu gadael y tu allan.
"Pan mae'r rhoddion yn cael eu gadael y tu allan i'r siop, dydyn ni siŵr o fod ddim am allu eu defnyddio o gwbl", meddai'r rheolwr manwerthu, Claire Samuel.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, perchnogion y tir sy'n gyfrifol am dalu i gael gwared ar unrhyw wastraff sy'n dod o dipio anghyfreithlon ar eiddo preifat.
Maen nhw'n cynghori elusennau i gofnodi'r digwyddiad, rhoi gwybod i'r awdurdod lleol amdano ac yna chael gwared ar y gwastraff.

Does dim modd defnyddio rhoddion sy'n cael eu gadael yn y glaw meddai elusen Enfys Foundation Reuse & Restore
Ychwanegodd Ms Samuel bod costau cael gwared ar wastraff wedi cynyddu'n sylweddol.
"Os ydy pobl yn mynd i'r drafferth o sortio eitemau all gael eu gwerthu eto, yna mae eu gadael nhw y tu allan yn dadwneud yr ymdrech.
"Weithiau mae pobl yn gadel eitemau mawr", meddai fel seddi car i blant a phramiau, "ond allwn ni ddim eu gwerthu am resymau diogelwch".
Roedd yn pwysleisio hefyd ei bod "mor werthfawrogol o bobl sy'n gwneud yr ymdrech i ddod â'r eitemau iddyn nhw" ond ei bod wir am i'r bobl hynny "weld eu heitemau ar lawr y siop".
Cynnydd o 6000% mewn tipio anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025
Tipio anghyfreithlon yn costio £2.1m
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2016
Diffyg gweithredu ar dipio anghyfreithlon yn 'rhwystredig'
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2025
Llynedd, fe ofynnodd yr elusen Enfys Foundation Reuse & Restore, sydd â siop yn Y Barri, ar eu cyfryngau cymdeithasol i bobl beidio â gadael bagiau y tu allan.
Fe welon nhw lai eleni ond yn hytrach na gadael bagiau y tu allan i'r drws fe aeth pobl â nhw i'r man tawel agosaf.
"Ni'n dod o hyd i bentyrrau yn y maes parcio weithiau ble mae pobl wedi cael gwybod bod ni methu derbyn eu heitemau, felly maen nhw'n eu gadael y tu ôl i'w ceir ac yn gyrru i ffwrdd" meddai llefarydd ar ran yr elusen.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud: "Rydym yn annog pobl i adael eitemau'n gyfrifol yn ystod oriau agor siopau neu ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i ariannu'r bartneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Taclo Tipio Cymru "sy'n cefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â hyn, yn monitro lefelau tipio anghyfreithlon ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.