Dyn wedi marw ar ôl cymryd cyffuriau ar wyliau yn Benidorm - cwest

Cafodd Harvey Dominy ei ganfod yn ei ystafell wely ar 16 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 21 oed o Ferthyr Tudful o fewn oriau o gyrraedd ei "wyliau cyntaf gyda'i ffrindiau" yn Benidorm, Sbaen oherwydd ymateb difrifol i gyffuriau clywodd cwest.
Cafodd Harvey Dominy ei ddarganfod ar lawr ei ystafell yng ngwesty El Trebol ar noson 16 Gorffennaf 2024 ar ôl cymryd cocên, MDMA ac yfed alcohol.
Daeth y crwner cynorthwyol Kerrie Burge i'r casgliad bod y farwolaeth yn gysylltiedig â chyffuriau, gan nodi mai ataliad y galon mewn ymateb i sylweddau seicoweithredol oedd yr achos.
Dywedodd y crwner ei bod yn annhebygol y byddai ymateb cynt gan ei ffrindiau wedi ei achub, o ystyried natur sydyn a difrifol y digwyddiad.
Fe glywodd Llys y Crwner Pontypridd fod Mr Dominy yn ddyn "caredig a hael" a oedd yn mwynhau cymdeithasu, teithio a gwylio pêl-droed.
Dyn, 21, wedi marw tra ar wyliau yn Benidorm
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
Clywodd Llys y Crwner Pontypridd fod Mr Dominy a oedd newydd orffen cwrs paentio ac addurno wedi trefnu'r daith gyda thri ffrind - Liam Mason, Liam Llewellyn a Levi Davies.
Fe glywodd y llys hefyd bod y grŵp wedi dweud wrth yr heddlu yn Sbaen eu bod wedi gadael Harvey yn yr ystafell am 19:00 a phan ddychwelon nhw am 22:30 roedd ar y llawr.
Ond fe gwestiynodd aelodau o deulu Harvey yr amserlen gan ddweud eu bod yn poeni a allai rhywun fod wedi gofyn am gymorth yn gynt.
Cafodd datganiad ei ddarllen i'r llys gan ffrindiau eraill oedd yn rhan o grŵp sgwrsio bod fideo o Harvey mewn cyflwr gwael wedi cael ei anfon - a fideo arall yn hwyrach o'i gorff ar y llawr gyda'r neges yn dweud ei fod wedi eu gadael nhw.
Fe glywodd y llys bod negeseuon wedi cael eu hanfon yn annog y bechgyn i alw am ambiwlans neu gymorth ond bod Liam Mason wedi ateb yn dweud bod e wedi marw'n barod.
Ceisio perfformio CPR
Wrth roi tystiolaeth dywedodd y tri nad oedden nhw wedi gadael Harvey ar ben ei hun gan esbonio eu bod wedi prynu tua 2g o gocên a rhywfaint o MDMA ar y stryd yn Benidorm.
Dywedodd Levi Davies ei fod wedi ceisio perfformio CPR ar Harvey ac esboniodd Liam Mason bod Harvey wedi yfed lot yn ystod y dydd gan gynnwys pedwar potel o fodca yn y maes awyr.
Ychwanegodd eu bod wedi cymryd cyffuriau gyda'i gilydd o'r blaen ond nad oedd wedi gweld Harvey mewn cyflwr tebyg.
Mewn datganiad gan dad Harvey, Ricky Evans, oedd wedi hedfan i Sbaen oriau ar ôl ei farwolaeth dywedodd bod staff y gwesty'n dweud bod y bechgyn yn ymddwyn yn "amheus".
Dywedodd ei fod wedi sylweddoli hefyd bod £700 ar goll o waled Harvey.
Yn ôl patholegydd o Sbaen a gynhaliodd archwiliad post mortem nid oedd arwydd bod Harvey wedi cael ei anafu o gwbl ond roedd alcohol, cocên, cocaethylene a MDMA yn ei system.
Wrth nodi ei chasgliad dywedodd y Crwner Kerrie Burge bod Harvey wedi dioddef "ymateb acíwt" i'r cyffuriau roedd wedi eu cymryd.
Ychwanegodd "o ystyried natur gyflym a difrifol ymateb Harvey" ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n "annhebygol y byddai ymateb cyflymach gan ei ffrindiau wedi ei achub".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.