Rhieni 'ar eu pennau eu hunain' ar ôl marwolaeth mab ar wyliau

Cafodd corff Nathan Osman ei ganfod ar waelod clogwyn anghysbell o fewn 24 awr iddo gyrraedd Benidorm
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni dyn a fu farw yn Benidorm yn dweud eu bod wedi cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i geisio canfod beth wnaeth ddigwydd i'w mab.
Cafodd corff Nathan Osman, oedd yn 30 ac yn dad i bedwar, ei ganfod ar waelod clogwyn anghysbell ar gyrion y ddinas o fewn 24 awr iddo gyrraedd y wlad.
Aeth yno ar wyliau gyda'i ffrindiau ym mis Medi 2024.
Yn ôl heddlu Sbaen, maent wrthi'n ymchwilio i'w farwolaeth ar hyn o bryd.
Ond mae ei deulu, sy'n credu fod rhywun wedi ei herwgipio a dwyn ganddo cyn ei farwolaeth, yn dweud bod angen mwy o ymchwiliadau ynghylch data ffôn oedd yn ymddangos fel pe bai'n dangos eiliadau olaf Mr Osman.
Dywedodd y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu eu bod yn darparu "cymorth wedi'i deilwra" mewn amgylchiadau lle y bu farw dinasyddion Prydeinig dramor.

"Mae ein calonnau mewn darnau bob dydd," medd mam Nathan, Elizabeth
Mae teulu Mr Osman wedi cynnal ymchwiliad eu hunain ar ôl ei farwolaeth, wedi'u hysgogi gan eu hanfodlonrwydd gyda'r awdurdodau Sbaenaidd.
Maen nhw'n credu bod y weldiwr wedi cael ei herwgipio wrth gerdded i'w westy ar ben ei hun, cyn cael ei ladrata a'i gludo i'r ardal anghysbell lle y cafodd ei gorff ei ganfod.
Mae ei deulu wedi dweud yn y gorffennol bod ymdrechion wedi'u gwneud i ddefnyddio cerdyn banc Nathan ar ôl i'w gorff gael ei ddarganfod ac y byddai ei symudiadau wedi cael eu gweld gan gamerâu cylch cyfyng.
Ers hynny maen nhw wedi derbyn ffôn Mr Osman yn ôl gan awdurdodau Sbaen, ac yn dweud bod ei symudiadau olaf i'r clogwyn, a gafodd eu dilyn trwy ap iechyd, yn awgrymu ei fod mewn cerbyd, yn hytrach na cherdded neu redeg.
Defnyddio ap iechyd
Pan ofynnwyd iddynt am y data o ffôn Mr Osman, dywedodd heddlu Sbaen fod ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd a'u bod yn cyd-weithio gyda'r awdurdodau barnwrol.
Dywedodd mam Mr Osman, Elizabeth Osman ei bod wedi meddwl am rhywbeth ychydig fisoedd yn ôl: "Meddyliais, 'beth sy'n digwydd gydag ap iechyd Nathan?'"
"Roedden ni'n meddwl, os oedd e wedi cerdded milltiroedd am 04:10 y bore, pan gafodd ei weld ddiwethaf ar gamera cylch cyfyng yn cerdded, y byddai miloedd ar filoedd o gamau wedi'u cofnodi ar ei ap iechyd i ddangos ei fod e wedi cerdded i fyny i gopa'r mynydd.
"Ond na, wnaeth e ddim," meddai Ms Osman.
Teulu dyn o Bontypridd fu farw'n Sbaen yn 'rhwystredig' fod ei achos wedi cau
- Cyhoeddwyd12 Medi 2025
'Marwolaeth Cymro yn Sbaen bellach yn ymchwiliad i achos o ladd'
- Cyhoeddwyd15 Mai 2025
Teulu'n hedfan i Sbaen am 'atebion' i farwolaeth eu mab
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2025
Ychwanegodd Ms Osman, wnaeth ddweud bod ei mab wedi bod yn "crwydro" mewn modd "eithaf hamddenol" pan gafodd ei weld ddiwethaf ar gamera cylch cyfyng, fod y teulu wedi "treulio'r flwyddyn gyfan yn ymladd" am wybodaeth.
Roedd gan ei mab "bopeth i fyw amdano", meddai, ac roedd wedi bod "mor gyffrous" am y daith funud olaf i ffwrdd fel saib o weithio dwy swydd.
Wrth ddisgrifio mynd allan i Benidorm i chwilio am ei fab, esboniodd tad Mr Osman, Jonathan Osman nad oedden nhw "hyd yn oed yn gwybod ble'r oedd ein bachgen ni, doedden ni ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddo mewn gwirionedd".
"Cafon ni'n gadael mewn limbo," meddai.
Mae'r heddlu yn Benidorm wedi dweud yn y gorffennol eu bod wedi cau ymchwiliad i lofruddiaeth a bod marwolaeth Nathan Osman yn cael ei thrin fel un ddamweiniol.

"Roedd o bob amser yn gwenu," meddai teulu Nathan Osman, wrth iddyn nhw frwydro am atebion am ei farwolaeth
Flwyddyn ers marwolaeth Mr Osman, mae ei rieni bellach yn ymgyrchu am fwy o gefnogaeth i deuluoedd pan fydd perthynas yn marw dramor.
Maen nhw wedi lansio deiseb yn galw am fframwaith gymorth ffurfiol i "sicrhau cyfathrebu cyson i deuluoedd" ac i roi cyngor gwell ynghylch dychwelyd rhywun i'r wlad.
"Mae ein calonnau mewn darnau bob dydd," meddai Ms Osman.
"Rydyn ni'n codi yn y bore ac mae'n frwydr ac nid ydym yn gwybod sut rydyn ni'n mynd o un diwrnod i'r llall.
"Ond, rydyn ni'n ei wneud er mwyn ein plant ac er mwyn ein hwyrion. Does gennym ni ddim dewis.
"Ar gyfer y flwyddyn nesaf, nawr, rydyn ni'n gobeithio y bydd y ddeiseb yn cychwyn. Byddwn yn parhau i helpu teuluoedd."
'Trasiedi ofnadwy'
Wrth iddyn nhw wynebu eu hail Nadolig heb eu mab, dywedodd rhieni Nathan Osman y bydd yn cael ei gofio bob amser fel "y gwenwr".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu bod "colli anwylyd dramor yn drasiedi ofnadwy".
"Mae ein meddyliau bob amser gyda'r teuluoedd sy'n parhau i alaru.
"Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi dinasyddion Prydeinig ledled y byd wrth i ni deithio at ddibenion gwaith a hamdden.
"Rydym yn cefnogi tua 25,000 o Brydeinwyr a'u teuluoedd bob blwyddyn trwy wasanaethau consylaidd.
"Mewn amgylchiadau lle mae dinasyddion Prydeinig yn marw dramor, rydym yn cefnogi teuluoedd gyda chymorth wedi'i deilwra."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod y llu'n "cynnal ymholiadau ar ran Crwner Ei Mawrhydi a bod swyddog cyswllt teuluol wedi'i benodi i ddarparu cefnogaeth".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.