Arestio tri ar amheuaeth o dwyll meddyginiaethau colli pwysau

- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dwyll yn ymwneud â meddyginiaethau colli pwysau anghyfreithlon.
Daw'r arestiadau wrth i Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio yn sgil honiadau bod meddyginiaethau colli pwysau anghyfreithlon yn cael eu hysbysebu ar-lein a'u gwerthu mewn busnesau harddwch ar draws Wrecsam a Sir y Fflint.
Un o'r meddyginiaethau yw Retatrutide - meddyginiaeth na sydd wedi'i thrwyddedu yn y DU.
Ymhlith eraill sydd wedi'u canfod mewn tri safle mae meddyginiaethau sy'n ffugio bod yn Tirzepatide (Mounjaro) a Semaglutide (Ozempic).
Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn rhybuddio yn erbyn defnyddio unrhyw beth sy'n cynnwys Retatrutide gan fod y feddyginiaeth yn cael ei "gwerthu a'i chyflenwi y tu allan i'r gadwyn gyflenwi gyfreithiol ac o bosibl yn beryglus i iechyd".
Dywedodd yr asiantaeth bod "rhan fwyaf o feddyginiaethau colli pwysau sydd wedi'u cymeradwyo ar gael trwy bresgripsiwn yn unig, sy'n golygu bod rhaid cynnal ymgynghoriad â meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol".
'Risgiau difrifol' i feddyginiaethau o'r fath
Ychwanegodd Rick Lines, Pennaeth Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Cyhoeddus Cymru "bod prynu meddyginiaethau presgripsiwn o ffynonellau answyddogol yn fater difrifol".
"Gall rhai cyffuriau a werthir drwy ffynonellau answyddogol gynnwys y cynhwysion anghywir," ychwanegodd.
Mae Mr Lines hefyd yn rhybuddio y gall defnyddio meddyginiaethau heb oruchwyliaeth feddygol briodol "arwain at sgileffeithiau difrifol neu niwed i iechyd".
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Roberts bod yr ymchwiliad, "sydd ar hyn o bryd yn ei gamau cynnar, yn parhau ac mae'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth cysylltiedig â gwerthu meddyginiaeth colli pwysau ffug i gysylltu â nhw.