Hwb iechyd meddwl yn disgwyl gweld mwy o bobl ifanc wedi'r Nadolig

Hwb Llesiant Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Hwb Llesiant Bro Myrddin yw hwb argyfwng iechyd meddwl cyntaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys 24 awr y dydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Nadolig yn gallu bod yn anodd i nifer o bobl ifanc. Dyna pam mae hwb argyfwng iechyd meddwl cyntaf Cymru wedi dweud eu bod nhw'n disgwyl gweld mwy o bobl ifanc yn cael eu cyfeirio atyn nhw am gymorth ar ôl cyfnod y Nadolig.

Yn ôl Bethan Thomas, sy'n arweinydd tîm yn Hwb Llesiant Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, gall cyfnod y Nadolig fod yn straen i rai pobl ifanc.

Wedi agor yn 2023, mae'r hwb yn cynnig darpariaeth iechyd meddwl "bwrpasol" i blant a phobl ifanc sydd angen cymorth brys, 24 awr, saith diwrnod yr wythnos.

Ei nod yw atal plant a phobl ifanc rhag gorfod aros yn hir mewn adrannau brys ysbytai.

Nikita, 17 o Lanelli
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Nikita yn treulio'r Nadolig gyda'i theulu

Mae Nikita, 17 o Lanelli, wedi derbyn cymorth yn yr hwb ers bron i flwyddyn.

Mae'n dweud fod ymweld â'r hwb o fudd iddi, "cyn i bethau gyrraedd crisis point".

"Maen nhw'n dod â chi yn ôl i lawr, cyn i bethau droelli," meddai.

"Chwarae gemau, mynd â chi am dro, sy'n eithaf defnyddiol.

"Rwy'n credu ei fod yn rhoi cyfle i chi siarad â rhywun cyn i chi fod yn eich meddyliau eich hun, cyn i bethau waethygu i'r pwynt lle mae'n rhaid i chi fynd i'r ysbyty."

Bethan Thomas o flaen y goeden Nadolig
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhagor o bobl yn debygol o gael eu cyfeirio at yr hwb ar ôl y Nadolig, yn ôl Bethan Thomas

Yn ôl Bethan Thomas, arweinydd tîm yr hwb, sydd o dan ofal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'r cyfnod yn arwain at y Nadolig wedi bod yn dawel yno, ond mae'n disgwyl i'r cyfnod ar ôl y Nadolig fod yn dra gwahanol.

"Gall amser y Nadolig fod yn triggering i rai pobl ifanc," meddai.

"Rydych chi'n treulio mwy o amser gyda'ch gilydd mewn lle cyfyng.

"Gall fod yn straen, dadleuon adeg y Nadolig, siom, ac rydych chi'n cael y build up yna cyn y Nadolig.

"Mae pethau'n tueddu i fod yn ychydig o straen ar ôl y Nadolig.

"Rwy'n credu y byddwn ni'n gweld ychydig yn fwy o bobl ifanc yn dod i mewn."

Lily
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gofyn am help yn beth mawr," meddai Lily

Mae Lily, 14 o Abertawe, hefyd wedi elwa o'r cymorth yn yr hwb, a hynny ers tua dwy flynedd.

Cyngor Lily i'r rheiny sy'n gweld cyfnod y Nadolig yn anodd yw peidio bod â chywilydd wrth ofyn am help.

"Paid â bod ofn ymestyn allan. Mae'n ddewr i ymestyn allan. Mae gofyn am help yn beth mawr," meddai.

Dywedodd Lily y bydd hi'n treulio'r Nadolig gyda theulu yn "stwffio siocledi".

Lara Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n iawn i beidio teimlo'n hapus, os mai dyna sut maen nhw'n teimlo," meddai Lara Evans

Mae Lara Evans yn gweithio fel nyrs seiciatrig yn yr hwb, ac yn cydnabod bod pobl ifanc yn gallu profi heriau yn ystod cyfnod y Nadolig.

"Mae'n cael ei weld fel cyfnod hapus, hyfryd, ond mewn gwirionedd, fel rydyn ni gyd yn gwybod, nid dyna'r achos."

Bydd hi'n gweithio yn yr hwb dros y Nadolig, ac mae'n dweud y bydd y staff yn "cysuro pobl ifanc nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain".

"Mae'n iawn i beidio teimlo'n hapus, os mai dyna sut maen nhw'n teimlo," meddai.

"Rydyn ni'n gofyn pa fath o bethau maen nhw'n mwynhau, yn cynnig troi eu sylw a siarad am bethau sydd ddim yn cynnwys arian na phresantau.

"Amser gyda theulu a ffrindiau a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw ddolen gyswllt.

"Os ydyn nhw eisiau bod i ffwrdd o hynny, maen nhw'n gallu dod yma a chael mynediad at y cymorth maen nhw angen."

Hwb Llesiant Bro Myrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hwb ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos

Dywedodd y dylai unrhyw berson ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl brys gysylltu gyda 111 opsiwn 2, lle bydd modd eu cyfeirio at y ganolfan.

"Rydyn ni'n wasanaeth 24 awr, rydyn ni'n medru ymateb mewn modd amserol a chynnig y cymorth sydd ei angen arnyn nhw cyn gynted â phosib," meddai Ms Evans.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol