Argyfwng costau byw: Annog mwy i sefydlu mannau cynnes

Dywedodd Kim Coppenbarger ei bod yn defnyddio man cynnes "bron iawn yn wythnosol"
- Cyhoeddwyd
Mae pwysigrwydd darparu llefydd cynnes, sydd yn fannau i bobl allu cymdeithasu a chael mynediad at gyngor, yn cynyddu wrth i awdurdodau lleol annog mwy o sefydliadau a busnesau i gofrestru.
Mae'n cynnig "lle cyfforddus, cynnes a diogel", yn ôl rhai o'r bobl sydd yn defnyddio'r ddarpariaeth.
Yr argyfwng costau byw, yn enwedig prisiau ynni cynyddol, sydd wedi ysgogi prosiectau mannau cynnes ar draws Prydain gyda phobl yn cael eu gorfodi i wneud dewisiadau anodd ynglŷn â gwresogi eu cartrefi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.5m i gefnogi ac ehangu lleoedd diogel a chynnes i bobl o bob oed eu defnyddio o fewn cymunedau lleol.

Mae'r Llew Du yn Llanfair Caereinion wedi sefydlu hwb ers y llynedd
Mae'r Llew Du yn Llanfair Caereinion wedi sefydlu hwb ers y llynedd, ac yn ystyried manteisio ar yr ariannu sydd ar gael trwy Gyngor Powys am ddarparu'r gwasanaeth.
Trwy'r cynllun, mae grant o hyd at £2,000 ar gael i bob sefydliad sydd eisiau datblygu neu sefydlu man cynnes newydd.
Mae'r hybiau, yn ogystal â darparu man cynnes, yn cynnig gwasanaethau a chyngor i bobl.
Rhwng 2022-2023, fe gafodd dros 850 o fannau cynnes eu sefydlu ar draws Cymru gan ddarparu cefnogaeth i dros 117,000 o bobl.
'Braf gwybod y byddaf yn gynnes ac yn ddiogel'
Un sy'n defnyddio man cynnes "bron iawn yn wythnosol" yw Kim Coppenbarger.
"Mae'r gŵr yn gweithio i ffwrdd, ac rydw i'n newydd i'r dref, sy'n golygu fy mod ar fy mhen fy hunan yn aml," meddai.
"Dwi'n dod yma i gael cwmni, ac mae mor groesawgar yma ac mae rhywun bob amser yma i sgwrsio. Rydw i'n sgwrsio â'r dynion oedrannus sy'n dod bob wythnos a dyma'r unig bryd poeth maen nhw'n ei gael yn yr wythnos.
"Os dw i'n dod yma, dydw i ddim yn eistedd adref yn gwylio'r mesurydd trydan yn mynd i fyny'n gyson ac yn meddwl a ddylwn i ddiffodd y gwres gan mai dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd gen i.
"Mae'n braf dod yma a gwybod am ychydig y byddaf yn gyfforddus, yn gynnes ac yn ddiogel."
Y Gyllideb: 'Gas, 'lectrig a phrisiau bwyd' yn poeni pobl Bangor
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2025
Costau byw: 'Biliau a bwyd yn mynd yn ddrytach a drytach'
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2025
Cynnydd costau ysgol yn rhoi 'straen' ar deuluoedd
- Cyhoeddwyd2 Medi 2025
Tua £1,850 oedd cyfanswm cyfartalog bil ynni aelwydydd yng Nghymru eleni, yn ôl amcangyfrif Llywodraeth Prydain, sydd 37% yn uwch na'r un ffigwr yn 2021-22.
O ganlyniad, mae mwy o aelwydydd yng Nghymru bellach yn gorfod gwario mwy na 10% o'u hincwm ar filiau ynni, sy'n eu rhoi mewn tlodi tanwydd.
Mae hyn yn gadael llai o incwm ar gyfer hanfodion fel bwyd, rhent ac anghenion sylfaenol eraill.

"Mae'n braf cael dod yma i ymlacio a bod gyda menywod, yn hytrach na bod adref yn gwylio snwcer ar y teledu," meddai Hazel Davies
Mae Hazel Davies, sydd yn gofalu am ei gŵr, hefyd yn mwynhau'r gwmnïaeth mae'r man cynnes yn ei gynnig.
Dywedodd: "Mae'n braf cael dod yma i ymlacio a bod gyda menywod, yn hytrach na bod adref yn gwylio snwcer ar y teledu!
"Mae fy ngŵr bron yn 80 oed ac wedi bod yn sâl ers blynyddoedd. Mae'n rhaid i mi fod adref bob dydd i ofalu amdano. Ond mae gallu galw yma am awr i switchio i ffwrdd wedi bod mor hyfryd. Rwy'n caru snwcer ond nid drwy'r dydd bob dydd!
"Mae'n hyfryd gallu cael paned o de am ddim - dwi ddim yn dod oherwydd hynny - ond mae'n tynnu pobl yma ac i fi beth sy'n neis yw bod rhywun yma bob amser i sgwrsio dyna dwi'n mwynhau."

Mae mannau cynnes yn cynnig "achubiaeth wirioneddol" i aelodau bregus cymdeithas, meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance
Mae Cyngor Sir Powys yn y broses o ddiweddaru ei rhwydwaith o fannau cynnes sy'n cynnig cyfleoedd cymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn ystod tywydd oerach.
Mae'r cyngor yn dweud y gall "unrhyw sefydliad, busnes neu grŵp cymunedol" gofrestru i gael gwybod mwy.
Fe ddywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach bod y mannau cynnes yn cynnig "achubiaeth wirioneddol" i aelodau bregus cymdeithas.
"Mae'r mannau hygyrch, diogel a chynnes hyn yn achubiaeth wirioneddol i rai o'n trigolion mwyaf bregus yn ystod y gaeaf," meddai.
Felly, os ydych yn meddwl y gallwch helpu eich cymuned, cofrestrwch eich manylion ac ystyriwch wneud cais am grant.
"Gellir defnyddio'r cyllid hwn i sefydlu, neu ailsefydlu, man cynnes, neu i wneud gwelliannau."
Mwy o bobl yn defnyddio mannau cynnes
Gofynnodd BBC Cymru i bob cyngor yng Nghymru ynglŷn â nifer y mannau cynnes yn eu hardal ac os oedden nhw, yn y tair blynedd diwethaf, wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n eu defnyddio.
Cafwyd ymateb gan fwyafrif y cynghorau ac roedd nifer y mannau cynnes yn amrywio o 10 mewn llyfrgelloedd yn sir Wrecsam, 21 mewn lleoliadau tebyg yng Nghaerdydd a 13 ym Merthyr Tudful, hyd at 80 yn Abertawe, 95 yng Ngwynedd a 109 yn Rhondda Cynon Taf.
Fe wnaeth llawer o'r cynghorau dweud bod cynnydd yn y defnydd o'r mannau cynnes ers 2023 a dywedon nhw, lle'r oedd cyllid ar gael, y gallen nhw ddarparu grantiau i gefnogi sefydliadau i agor mannau cynnes newydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.