Teyrngedau i'r gyfansoddwraig 'arbennig' Gwenda Williams o Ruthun

Gwenda D WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwenda Williams yn 'gyfansoddwraig tonau arbennig', medd Trystan Lewis

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer wedi rhoi teyrnged i Gwenda D Williams - cerddor a chyfansoddwraig o bentref Pwll-glas ger Rhuthun.

Bu farw mewn cartref gofal yng Ngherrigydrudion yn 92 oed.

Un o Lanelidan oedd Gwenda Williams yn wreiddiol ac fe symudodd i Bwll-glas i briodi ei gŵr, y diweddar Ogwen Williams, ac yn y pentref hwnnw y treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd.

Wrth gofio amdani dywedodd y cerddor Trystan Lewis: "Roedd hi'n gyfansoddwraig tonau arbennig. Roedd hi wedi ennill yn y Genedlaethol yn 1989 hefo'i gosodiad o Weddi'r Arglwydd - y fersiwn newydd ac ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn 1991 ar eiriau Aled Lloyd Davies. Mae'r ddwy yng Nghaneuon Ffydd.

"Ddaru hi ennill mewn eisteddfodau mawr a bach ar draws Cymru ddegau o weithiau ar gyfansoddi emyn-donau. Roedd hi fwy neu lai wedi dysgu ei hun drwy'r sol-ffa.

"Fe fuodd hi'n organydd Capel Bryn Banadl a Chapel y Rhiw, Pwll-glas am flynyddoedd mawr."

Gwenda Williams a gyfansoddodd alaw y gân boblogaidd 'Ffrindiau'Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gwenda Williams a gyfansoddodd alaw y gân boblogaidd 'Ffrindiau'

Roedd Gwenda Williams hefyd yn gyfeilydd i Driawd Menlli a fuodd yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru gan ymddangos hefyd ar raglen Noson Lawen. Hi hefyd oedd yn cyfansoddi'r caneuon.

"Mae rhywun yn cofio'n fwyaf arbennig am y gân 'Ffrindiau' o waith Gwenda a geiriau Dewi Bowen sy'n parhau yn un o ffefrynnau rhaglen Ar Eich Cais ar nos Sul ar Radio Cymru," ychwanegodd Trystan Lewis.

"Ddaru hi gyhoeddi cyfrol o'i chaneuon, Taro'r Nodyn yn ogystal.

"Ges i'r fraint o arwain cymanfa ganu ym Mhwll-glas yn 2005 o donau Gwenda, y gymuned yn dod ynghyd i dalu teyrnged i un ddaru weithio mor galed yn ei bro.

"Roedd 'ne rhywbeth mor arbennig yn ei thonau hi, maent mor ganadwy, harmonïau cadarn ar gyfer canu cyhyrog pedwar llais, gyda phriodas hyfryd â'r geiriau.

"Mae ei charol, Iona, ar eiriau y diweddar Barchedig O R Parry yn drysor."

'Cefnogwr diflino' i eisteddfodau

Wrth ymateb i'w marwolaeth dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Roedd Gwenda Williams, Pwll-glas yn gefnogwr diflino o eisteddfodau lleol yn ogystal â'r Eisteddfod Genedlaethol am ddegawdau lawer.

"Cyfrannodd ddegau o emyn-donau i'r genedl dros y blynyddoedd, a hynny wrth gefnogi diwylliant ar lawr gwlad.

"Rydyn ni'n anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei theulu a'i holl ffrindiau."

Taro'r NodynFfynhonnell y llun, Gwasg y Bwthyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ei chyfrol Taro'r Nodyn yn cynnwys ei chyfansoddiadau ar gyfer Meibion Menlli a gwaith buddugol eisteddfodau bach a mawr

Wrth gofio amdani dywedodd y cyfansoddwr a'r cerddor Robat Arwyn: "Roedd Gwenda Williams â dawn reddfol i lunio tonau cynulleidfaol hynod ganadwy, yn llawn alawon gafaelgar a chordiau cyfoethog a rheiny'n aml iawn yn adeiladu'n gelfydd tuag at ddiweddglo cadarn a gorfoleddus, ond bob tro yn rhoi'r parch dyledus i'r geiriau.

"Roedd yn gyfforddus iawn yn ysgrifennu caneuon i blant ac oedolion yn ogystal â'r toreth emyn-donau y mae wedi eu cyfansoddi dros y blynyddoedd, a defnyddiwyd y ddeuawd 'Derbyn Ddiolch' yn Eisteddfod yr Urdd fwy nag unwaith."

Mae'n gadael efeilliaid Huw a Iona a'u teuluoedd. Bu farw ei diweddar fab Alun ychydig dros flwyddyn yn ôl a'i gŵr Ogwen Lloyd Williams yn 2018.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.