Democratiaid Rhyddfrydol yn addo gwariant gwasanaeth iechyd a gofal plant

Fe wnaeth Jane Dodds lansio'r maniffesto yng Nghaerdydd ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd fore Mawrth.
Mae eu harweinydd, Jane Dodds, wedi addo amddiffyn y GIG trwy fuddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol, cymorth ychwanegol ar gyfer gofal plant a sicrhau nad oes "un geiniog" yn cael ei gwario ar annibyniaeth.
Gobaith y blaid yw y gallen nhw wella ar eu canlyniad yn 2021, pan gafodd Ms Dodds ei hethol fel yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol.
Ar 7 Mai bydd pleidleiswyr ledled Cymru yn ethol 96 o wleidyddion i'r Senedd, i fyny o 60.
Etholiad y Senedd: Dewch i 'nabod yr arweinwyr
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Yr Arweinwyr: Jane Dodds
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Dy Lais, Dy Bleidlais
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2025
'Dyma'r her fwyaf sy'n wynebu Cymru'
Mae trwsio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn un o brif nodau'r blaid yn ei maniffesto.
Rhan sylweddol o'u cynllun yw i fynd i'r afael â'r hyn disgrifiodd Ms Dodds fel yr "argyfwng gofal cymdeithasol".
Dywedodd bod hynny wrth wraidd y gwelyau llawn mewn wardiau ysbytai.
Mae'r blaid yn bwriadu gwario £300m ar y gwasanaeth gofal cymdeithasol gan ddweud y byddan nhw'n barod i godi ceiniog ar dreth incwm yng Nghymru am gyfnod penodol er mwyn ariannu'r addewid.
"Dyma'r her fwyaf sy'n wynebu Cymru," meddai wrth ddisgrifio'r sefyllfa gofal cymdeithasol.
Mae gofal canser yn bwnc arall dan sylw'r blaid gydag addewid i sicrhau y bydd 100% o gleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod o atgyfeiriad brys, gyda chyflwyniad cynllun canser cenedlaethol.
Mae hynny'n uwch na'r targed presennol o 75%.
'Pob plentyn yn haeddu dechrau teg'
Er mai dim ond un aelod sydd gan y blaid yn y Senedd, mae Jane Dodds wedi bod yn rhan o drafodaethau cyllideb gyda Llywodraeth Cymru yn y gorffennol ac yn dweud y byddai'n fodlon gwneud hynny eto.
Trwy wneud hyn mae hi wedi sicrhau gwaharddiad ar rasio milgwn, teithiau bws rhatach a mwy o arian ar gyfer gofal plant yn nhrafodaethau cyllideb 2025.
Mae gwella gofal plant yn rhan flaenllaw o gynlluniau'r blaid unwaith eto petawn nhw'n cael eu hethol i'r Senedd ym mis Mai.
Maen nhw'n cynnig ehangu'r gofal am ddim i 30 awr yr wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn i blant rhwng naw mis a phedair oed.
Dywed Jane Dodds fod "pob plentyn yn haeddu dechrau teg".
Aeth hi ymlaen i ddweud mai "cynnig gofal plant da yw'r ffordd fwyaf arwyddocaol y gall llywodraeth nesaf Cymru leihau'r lefel anweddus o dlodi plant a welwn yng Nghymru".
Mae'r blaid wedi chwarae rhan allweddol yn cefnogi sawl llywodraeth yn y Senedd dros gyfnod datganoli.
Ond rhybuddiodd yr arweinydd na fydd hi'n cefnogi plaid sy'n gwario ceiniog ar baratoadau ar gyfer annibyniaeth i Gymru.
Byddai hynny o bosibl yn diystyru cytundeb gyda Phlaid Cymru, sy'n cystadlu yn erbyn Reform i ennill yr etholiad ac wedi addo sefydlu pwyllgor cenedlaethol - a fyddai'n costio £500,000 - i ddechrau paratoi'r achos dros annibyniaeth.

Mae byd natur a'r amgylchedd yn flaenoriaeth arall i'r blaid yn yr etholiad.
Maen nhw'n addo clirio afonydd a moroedd Cymru, gan roi cyllid ychwanegol i Gyfoeth Naturiol Cymru a gwaharddiad ar fonysau i benaethiaid cwmnïau dŵr, nes bod gollyngiadau carthion yn dod i ben.
Mae yna darged penodol hefyd i "ddyblu natur" erbyn 2050, ac addewid i gynyddu'r gyllideb amaeth £50m bob blwyddyn.
Mae'r blaid wedi cael brwydr anodd i aros ar y llwyfan gwleidyddol yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf - gyda dim ond un AS yn cael ei ethol yn 2016.
Cafodd Ms Dodds, sy'n gyn-Aelod Seneddol yn San Steffan, ei hethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf yn 2021 ac fe barhaodd i fod yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yno.
Mae hi'n dweud y gallai'r blaid ennill pum sedd - a fyddai'n ddigon i ffurfio grŵp Senedd swyddogol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.