Cadarnhau £33m i Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl

Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y RhylFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd

Mae buddsoddiad gwerth £33m wedi cael ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeilad newydd mewn ysbyty yn Y Rhyl er mwyn gwella'r gwasanaethau yno.

Mi fydd y cyfleuster newydd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cynnwys uned mân anafiadau a fydd yn gallu trin dros 20,000 o bobl y flwyddyn ac 14 o welyau mewn uned sy'n ailalluogi cleifion i fyw bywyd bob dydd cyn mynd adref.

Cafodd cynnig gwreiddiol ar gyfer ysbyty newydd gwerth £22 miliwn - a mwy na 30 o welyau - ei gymeradwyo yn 2013 ond mae'r gwaith wedi cael ei atal sawl gwaith.

Y gobaith nawr ydy y bydd yr adeilad yn barod cyn diwedd 2027 gan leihau'r pwysau ar adran argyfwng Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, fod hyn yn rhan o'r camau maen nhw'n eu cymryd i "drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd".

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan yn dweud y bydd yr adeilad newydd, gafodd ei addo'n wreiddiol i fod yn barod erbyn 2016, yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r bobl leol

Mi fydd y cyfleuster newydd hefyd yn ehangu gwasanaethau radioleg yr ysbyty ac yn cynnwys pedair ystafell ddeintyddol newydd a chynnydd mewn cyfleoedd hyfforddi i nyrsys deintyddol.

Fe gadarnhaodd Eluned Morgan y cyllid cyn cyfarfod yn Wrecsam ddydd Llun ac fe ddywedodd y bydd y buddsoddiad hirdymor hwn yn help mawr i'r bobl leol.

Bydd yn "lleihau'r amser y mae pobl yn aros yn yr adran argyfwng, yn cynyddu nifer y cleifion mewnol, ac yn galluogi pobl i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl cael triniaeth yn yr ysbyty".

Ychwanegodd ei fod yn rhan o gynllun y llywodraeth i "foderneiddio cyfleusterau, a gwella effeithlonrwydd er mwyn i bobl allu cael eu trin yn nes at adref".

Cam cyntaf ydy'r adeilad yma mewn buddsoddiad sy'n cyfateb i £60m yn Ysbyty Brenhinol Alexandra.

Mi fydd achos busnes ar gyfer cam dau i ddatblygu a gwella'r ysbyty presennol yn cael ei gyflwyno ar wahân gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

'Yn ganolbwynt i'r gymuned'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, ei fod yn "bleser mawr" cadarnhau'r cyllid yma.

Ychwanegodd bod Y Rhyl "yn gyrchfan wyliau boblogaidd, sy'n golygu bod gwasanaethau'r GIG yn gweithio'n galed i ddiwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn".

Mae hefyd yn gobeithio bydd y cyfleusterau newydd yn "helpu pobl i wella a theimlo'n hyderus eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol i ddychwelyd adref".

Mewn datganiad dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards, a'r Prif Swyddog Gweithredol, Carol Shillabeer, a gyflwynodd yr achos busnes: "Bydd yr adeilad newydd hwn yn ganolbwynt i'r gymuned".

Ychwanegon nhw ei fod "yn arwydd o'n hymrwymiad i ddod â gwasanaethau'n agosach at gartrefi pobl sy'n byw yn y Gogledd".

"Bydd y cyfleuster nid yn unig o fudd i'r gymuned yn y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos, ond bydd hefyd yn darparu gwasanaethau sy'n lleihau rhai o'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd."

Cafodd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer buddsoddiad gwerth £22m ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra eu cyhoeddi yn ôl yn 2013 gyda'r bwriad o'i agor yn 2016.

Chafodd y gwaith ddim ei gwblhau a dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r ysbyty'n barod yn 2017, yna yn 2019 ac wedyn yn 2021.

Nawr, gydag etholiad y Senedd ym mis Mai yn agosáu mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, yn dweud ei fod "ychydig yn rhy hwyr".

"Er y byddwn i wrth fy modd yn croesawu'r cyllid", meddai "ond o ystyried yr addewidion di-baid a dorrwyd ynghylch y datblygiad hwn ers 2013, byddaf yn ei gredu pan fyddaf yn ei weld."

Ychwanegodd hefyd fod y cynlluniau yma lawer yn llai na'r cynlluniau gwreiddiol a bod hynny "ddim yn ddigon da".

Ar ran Plaid Cymru fe ddywedodd Mabon ap Gwynfor AS fod pobl yn y gogledd wedi bod yn "aros yn rhy hir am y cyhoeddiad yma".

Ychwanegodd fod y blaid Lafur wedi bod yn camreoli'r gwasanaeth iechyd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am 27 o flynyddoedd ac felly ni fydd gan lawer o bobl ffydd y bydd y penderfyniad yma'n gallu "dadwneud y methiannau".

Dywedodd James Evans AS o blaid Reform bod y cyhoeddiad yma'n dod wedi "degawd o addewidion ffug".

Ychwanegodd bod hyn yn enghraifft o pam na ddylai gwleidyddion addo'r byd "pan maen nhw'n gwybod na fyddan nhw'n gallu ei gyflawni".

"Realaeth sydd ei hangen ar Gymru," meddai.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais i ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.