Crynodeb

  • 9am: Pwyllgor Deisebau.

  • Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.

  • Nesaf: Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyhoeddi Adroddiad Flynn.

  • Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyflwyniad i'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.

  • Nesaf: Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016.

  • Nesaf: Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015.

  • Nesaf: Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:00 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dyna ni am heddiw!

    Ymunwch â ni eto am 9am fory ar gyfer y Pwyllgor Cyllid.

    Senedd
  2. Cytunowedi ei gyhoeddi 17:57 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Cytunodd yr aelodau i egwyddorion cyffredinol y Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

  3. Termau Cymraegwedi ei gyhoeddi 17:51 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae'r ddogfen hon, dolen allanol yn rhoi crynodeb o'r termau technegol a deddfwriaethol Cymraeg sy'n gysylltiedig â'r Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

  4. Diwylliant o reoleiddiowedi ei gyhoeddi 17:39 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dywed y cyn-weinidog Alun Davies, "Un o'r methiannau sylfaenol yng Nghymru yw'r diwylliant o reoleiddio", gan ychwanegu "mae angen diwylliant sy'n cydnabod methiant ac yn gwneud rhywbeth am y peth."

    Alun Davies
  5. Pedwar cyfnodwedi ei gyhoeddi 17:31 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

    Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Bil hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Bil hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

  6. Newidiadauwedi ei gyhoeddi 17:15 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae'r Mesur yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:

    • diwygio'r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth;

    • darparu fframwaith rheoleiddio sy'n ei gwneud yn ofynnol i reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau;

    • diwygio'r drefn arolygu ar gyfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol;

    • ad-drefnu Cyngor Gofal Cymru a'i ailenwi'n Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ehangu ei gwmpas gwaith; a

    • diwygio'r dull o reoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol.

  7. Egwyddorion Cyffredinolwedi ei gyhoeddi 16:57 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae'r aelodau nawr yn cynnal Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

  8. Hawliauwedi ei gyhoeddi 16:43 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dywed y cyn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, "Am y tro cyntaf, bydd gan ofalwyr yr un hawliau i asesu a chymorth i ddiwallu eu hanghenion fel oedolion a phlant."

    Gwenda Thomas
  9. Ymgynghoriadwedi ei gyhoeddi 16:31 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dyma'r ymatebion i'r ymgynghoriad, dolen allanol ar y Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015.

  10. Rheoliadauwedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r prawf y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei gymhwyso i ddyfarnu p'un a oes gan unigolyn y mae ei anghenion wedi eu nodi mewn asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 hawlogaeth ai peidio i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu gan awdurdod lleol.

  11. Gofal a Chymorthwedi ei gyhoeddi 16:10 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Y gweinidog iechyd sy'n cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno.

  12. Toriadauwedi ei gyhoeddi 16:06 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dywed y gweinidog, "Cadarnhaodd y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf faint y toriadau mewn blwyddyn i'n Cyllideb 2015-16. Nid yw'r arian canlyniadol cadarnhaol o £4 miliwn oddi wrth y gyllideb yn gwneud llawer i liniaru effaith y gostyngiadau o £50 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Canghellor.

    "Roeddwn wedi gobeithio heddiw i fedru cyhoeddi buddsoddiadau newydd, er yn fach, mewn rhaglenni cyfalaf a phrosiectau eraill. Mae'r toriadau i'n cyllideb wedi rhoi'r gorau i hynny."

  13. Cyllideb Atodol Gyntafwedi ei gyhoeddi 15:38 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at Ddadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016.

  14. 800 mlyneddwedi ei gyhoeddi 15:36 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dywed y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, "am y tro cyntaf mewn rhyw 800 mlynedd, mae'n galluogi Cymru i gymryd y camau cyntaf tuag at roi ar waith drethi sy'n fwy addas ar gyfer amgylchiadau Cymru a dewisiadau Cymreig."

    Jane Hutt
  15. Dibenwedi ei gyhoeddi 15:24 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Mae'r Mesur yn darparu ar gyfer:

    • sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Prif swyddogaeth ACC fydd casglu a rheoli trethi datganoledig

    • cyflwyno pwerau a dyletswyddau priodol i ACC (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol i drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â chyflwyno ffurflenni treth a chynnal ymchwiliadau ac asesiadau er mwyn galluogi ACC i nodi a chasglu'r swm priodol o dreth ddatganoledig sy'n ddyledus oddi wrth drethdalwyr

    • pwerau ymchwilio a gorfodi sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau a fydd yn caniatáu i ACC fynnu gweld gwybodaeth a dogfennau ac i gael mynediad i fangreoedd ac eiddo arall a'u harchwilio

    • dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog o dan rai amgylchiadau

    • hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau ACC ac i apelio at Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o'r fath

    • cyflwyno pwerau gorfodi troseddol ar ACC.

  16. Trethi datganoledigwedi ei gyhoeddi 15:12 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Yn ôl llywodraeth Cymru, diben y mesur hwn yw rhoi ar waith y fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.

    Arian
  17. Casglu a Rheoli Trethiwedi ei gyhoeddi 15:08 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Erbyn hyn, ceir datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyflwyniad i'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.

  18. 'Rhaid derbyn argymhellion'wedi ei gyhoeddi 15:07 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Jocelyn Davies o Blaid Cymru yn gofyn a yw'r prif weinidog mewn sefyllfa i wybod os oes "amgylchiadau tebyg yn bodoli erbyn hyn unrhyw le arall" yng Nghymru.

    Meddai Mr Jones, "na, dydw i ddim yn ymwybodol o hynny a byddem yn disgwyl gyda systemau newydd ar waith na fyddai hyn yn cael ei ailadrodd, ond ni allwn fod yn hunanfodlon, yn amlwg, a dyna pam, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni dderbyn argymhellion yr adroddiad ei hun."

  19. Chwilio am atebolrwyddwedi ei gyhoeddi 14:52 GMT+1 14 Gorffennaf 2015

    Dyma Grynodeb Gweithredol o'r adolygiad, dolen allanol o esgeuluso pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.