
Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd
Mae ymgynghorydd ariannol o Gaerdydd sydd wedi ei gyhuddo o dwyll wedi dweud wrth lys fod ei fam wedi rhoi £137,000 iddo fel rhodd.
Mae Simon Haydock, 49 oed sy'n gweithio fel cyfarwyddwr cwmni rheoli cyfoeth Cascade, wedi ei gyhuddo o dwyllo ei fam o'r arian a gamblo'r arian.
Dywedodd Mr Haydock fod ei fam, Geraldine Haydock wedi gwerthu ei chartref yng Nghastell-nedd am £137,000.
Yn ôl Mr Haydock, sy'n gwadu'r cyhuddiad, daeth ei fam i'w gartref a chyflwyno siec iddo. Fe ddisgrifiodd y diwrnod wrth y rheithgor fel un "hapus".
'Mwynhau'r arian
Dywedodd Mr Haydock wrth y llys bod ei fam wedi dweud ei bod hi'n dymuno iddo "gael yr arian a'i fwynhau gyda'i deulu ifanc" - yn hytrach nac aros nes iddi hi farw.
Ychwanegodd bod ei fam eisoes wedi gwerthu eiddo yn y gorffennol ac wedi rhoi'r elw i'w frodyr a'i chwiorydd.
Mae'r llys eisoes wedi clywed i Ms Haydock, sy'n ei 70au, gredu bod ei mab yn buddsoddi'r arian ar ei rhan.
O fewn ychydig ddyddiau, roedd wedi gwario degau o filoedd o bunnoedd ar fuddsoddiadau risg uchel a gamblo.
Roedd £50,000 wedi cael ei golli ar werth y buddsoddiadau o fewn mis.
Dywedodd Mr Haydock wrth y llys nad oedden nhw wedi "tyfu fel yr oedd yn ei obeithio" ac nad oedd yn "gamblwr difrifol".
'Twyllo'
Clywodd y llys hefyd fod taliad misol o £567.70 yn cael ei wneud i'w fam gan y cwmni.
Yn ôl Mr Haydock, y rheswm am hyn oedd talu ei fam am waith oedd hi wedi'i wneud i gyflwyno cleientiaid newydd i'r busnes yn y gorffennol.
Ond dywedodd Mr Haydock ei fod wedi stopio talu ei fam ar ôl iddi gwyno amdano wrth yr Ombwdsman yn 2014.
"Does gen i ddim arian o'r rhodd i dalu'n ôl," meddai wrth y rheithgor.
Fe ysgrifennodd lythyr at ei fam yn dweud "Annwyl mam, Dwi'n ymddiheuro am bopeth sydd wedi digwydd. Gobeithio y gwnei di faddau i mi. Dwi'n addo talu £500 y mis i helpu gyda dy gostau byw."
'Dweud y gwir'
Yn ôl Mr Haydock roedd ei fam wedi dweud wrtho beth i ysgrifennu yn y llythyr gan ddweud y byddai hi yna'n "dweud y gwir" wrth yr heddlu.
Wrth ei groesholi, dywedodd y bargyfreithiwr Gareth Jones ar ran yr erlyniad nad oedd Mr Haydock yn "dweud y gwir".
"Roedd eich mam yn dibynnu arnoch chi ac yn ymddiried ynddoch chi i edrych ar ôl yr arian.
"Fe wnaethoch chi ei thwyllo gyda thaliadau misol i smalio fod hynny yn elw ar ei buddsoddiadau," meddai.
Mae Mr Haydock yn gwadu cyhuddiad o dwyllo ac mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
