
Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd
Fe wnaeth ymgynghorydd ariannol gymryd £137,000 gan ei fam drwy dwyll a'i ddefnyddio i gamblo, mae llys wedi clywed.
Mae Simon Haydock, 49 o Gaerdydd, yn gwadu cyhuddiad o dwyll y mae'r erlyniad yn honni digwyddodd rhwng Rhagfyr 2010 a Gorffennaf 2014.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd i Geraldine Haydock, sy'n ei 70au, gredu bod ei mab yn buddsoddi'r arian ar ei rhan.
Fodd bynnag, clywodd y rheithgor fod Mr Haydock, Rheolwr Gyfarwyddwr Cascade Wealth Management, yn gwario'r arian "fel y mynno" gan ddweud ei fod yn rhodd oddi wrth ei fam.
Clywodd y rheithgor bod Mr Haydock wedi "manteisio ar ei safle" fel cynghorydd ariannol, ac wedi methu "gofalu" am fuddsoddiadau ei gleientiaid, a oedd yn cynnwys ei fam.
Dywedodd yr erlynydd Nicholas Jones wrth y rheithgor bod Mrs Haydock wedi gwerthu tŷ yn 2010 ac wedi rhoi £137,338.62 i'w mab "fuddsoddi ar ei rhan".
Clywodd y llys bod Mr Haydock, a ddechreuodd ei yrfa fel ymgynghorydd ariannol gyda grŵp bancio Barclays, wedi bod yn gwario symiau mawr o arian ei fam.
'Gwneud ychydig o gamblo'
Clywodd y rheithgor bod Mr Haydock wedi gwario miloedd o bunnoedd ar wefan gamblo IG Index.
Yn ôl yr erlynydd, talodd arian i gwmni Betfair a throsglwyddo miloedd o bunnoedd i'w wraig.
Clywodd y llys i'r diffynnydd ddweud wrth yr heddlu ei fod yn "gwneud ychydig o gamblo".
Clywodd y rheithgor hefyd fod Mr Haydock wedi gwario'r rhan fwyaf o'r arian yn ei gyfrif a bod y cyfanswm wedi gostwng i tua £9,000.
Dywedodd yr erlynydd Mr Jones bod Mr Haydock naill ai wedi rhoi'r arian "i'w wraig" neu "wedi bod yn gamblo gydag e".
Mae Mr Haydock yn gwadu'r cyhuddiad ac mae'r achos llys yn parhau.