Wal eiriau yn her i Pws

Gwenllian Beyon yn derbyn gair arall

03 Mehefin 2010

Her gyntaf Bardd plant newyddCymru fydd cyfansoddi cerdd - gan ddefnyddio geiriau sydd wedi eu peintio gan blant ar wal arbennig ar faes yr Eisteddfod.

Ond nid unrhyw hen wal yw hon ond un y casglwyd y geiriau arni hi gan yr arlunydd Gwenllian Beynon- o Rydaman yn wreiddiol ond yn awr yn byw ym Mhontrhydfendigaid.

Mae hi yno ger y wal ym mhabell y dysgwyr - Cwtsh Cymraeg - gydag amrywiaethy o baent a brwsus yn gwahodd plant i beintio unrhyw air fynnan nhw ar y wal.

"Wedyn bydd y Bardd Plant newydd yn llunio cerdd gan ddefnyddio cymaint o'r geiriau a phosibl," meddai Gwenllïan a ychwanegodd i'r syniad ddod yn wreiddiol oddi wrthy Bwyllgor Llên yr Eisteddfod."

Bydd y wal yn cau, fel petai, heddiw. Drosodd wedyn at Dewi Pws - sydd eisoes yn enwog drwy Gymru am yrru pobl i fyny'r wal!


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.