Ennill gwobrau Tir na n-Og

Rhiannon a Manon

03 Mehefin 2010

Enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni ydi Manon Steffan Ross a Rhiannon Wyn .

Fel sy'n arferol bellach cyflwynwyd eu gwobrau o £1,000 yr un iddynt ar lwyfan yr Eisteddfod brynhawn heddiw.

Yn y categori cynradd y bu Manon Steffan Ross yn fuddugol gyda'i nofel, Trwy'r Tonnau.

Ei nofel Codi Bwganod sicrhaodd y wobr i Rhiannon Wyn yn yr adran uwchradd.

Mynegodd Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, lawenydd mai awduron ifanc a fu'n llwyddiannus.

"A dyw hynny ddim yn syndod, mae inc yng ngwaed y ddwy - Manon yn ferch i'r bardd a'r cyfansoddwr, Steve Eaves, a Rhiannon yn ferch i'r awdur Eirug Wyn. Mae'n afrgoeli'n wych ar gyfer dyfodol y nofel Gymraeg," meddai.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.