 |  | Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon Pleidleiswyr yn gynddeiriog!
Dydd Mercher, Gorffennaf 26, 2000
|
gan Diarmuid Johnson yn sgrifennu o Iwerddon
Ers tri mis mae pleidleiswyr Iwerddon yn gynddeiriog. Mae pethau cas yn dod i'r amlwg.
Yn ystod yr wythdegau bu i sawl gwleidydd blaenllaw gamddefnyddio ei awdurdod er mwyn troi môr o arian i 'w melin eu hunain.
Twyll ac ystryw, celwydd ac anwiredd: yn sgil darganfodiadau'r llysoedd mae'r bobl wedi eu syfrdanu.
Dyma gip ar yr hanes: Yr oedd economi Dulyn ar drai ddechrau'r wythdegau. Allfudo ar ei anterth. Y wlad yn swrth. Ond y tu ôl i'r tlodi yr oedd Ray Burke, Frank Dunlop, Charlie Haughey a'i feibion, Tom a Michael Bailey, George Redmond ac eraill yn gwneud eu ffortiwn.
Cyfreithiwr ifanc, tanbaid, yw Colm Mac Eochaidh. Fel sawl un arall, yr oedd yn amau fod drwg yn y caws.
Yn 1995 gosododd Mac Eochaidh hysbyseb yn y papur yn addo £10,000 i unrhyw un a fyddai'n fodlon rhoi gwybodaeth iddo am gamymddwyn yn y swyddfeydd cynllunio.
Atebodd James Gogarty yr hysbyseb a rhoi cychwyn i'r saga fwyaf yn hanes gwleidyddiaeth y wlad.
Swyddog yn swyddfeydd cynllunio Dulyn oedd Gogarty. Dyn oedrannus erbyn hyn ond dyn angen tawelu ei feddwl.
Gwyddai ormod. Y Gweinidog Cyfathrebu, Ray Burke, (plaid Fianna F/ail) a deimlodd yr ing gyntaf. Cyhoeddodd y wasg honiadau gan Gogarty i Burke gael £30,000 yn anrheg.
Ymhen hir a hwyr, gorfodwyd Burke i ymddeol.
Gobeithio fod y ddrycin drosodd Gobaith Fianna F/ail oedd fod y ddrycin drosodd. Ond cafodd aelodau eraill o'r blaid eu cysylltu ag anrhegion hael iawn. Ymddiswyddodd Liam Lawlor oherwydd honiadau tebyg. Cyhoeddwyd rhestr fanwl yn y wasg o enwau gwleidyddion y dywedwyd iddynt dderbyn anrhegion.
Yna, ar ben y cyfan, cododd hanes Hugh O'Flatherty.
Mae Hugh O'Flatherty yn farnwr wedi ymddeol. Yn 1996 fe'i beirniadwyd yn hallt am annhegwch ar ôl dedfrydu menyw ifanc caeth i gyffuriau i naw mlynedd o garchar am ddwyn handbag.
Dedfrydodd bensaer i bedair blynedd o garchar am ladd rhywun pan yn gyrru yn feddw dwll. Rhyddhawyd y pensaer yn fuan iawn.
Yr oedd yn sgandal.
Er gwaetha'r drwgdeimlad yn erbyn y barnwr, enwebodd y llywodraeth O'Flatherty yn gyfarwyddwr 150,000 o bunnau'r flwyddyn gyda'r Banc Ewropeaidd.
Aeth y wlad yn gandryll. Barnwr dan warth yn cael cynrychioli Iwerddon mewn maes lle nad oes ganddo arbenigedd.
Ond yr oedd y Taoiseach Bertie Ahern a'r T/anaiste (y Dirprwy Weinidog) Mary Harney yn ddigyfaddawd: O'Flatherty oedd eu dewis.
Y Llywodraeth ar ei gliniau Er y wyrth economaidd a'r tyfiant aruthrol, mae'r llywodraeth ar ei gliniau.
Y gwrthbleidiau yn taranu am etholiad, a'r newyddiadurwyr wrth eu boddau.
Drama heb ei hail sydd yn cael ei thrafod ym mhob tafarn a phob cegin o Malin Head i Tuskar Rock.
Ray Burke, Liam Lawlor a Hugh O'Flatherty, James Gogarty a Mary Harney yw rhai o'r actorion yn y ddrama epig hon. Ond Charlie Haughey yw'r prif gymeriad.
Mwy amdano fe y tro nesaf. Ymwelwch â'r safle hwn eto ddydd Mercher nesaf.

|
 |