 |  | Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon Ail ran erthygl gan Diarmuid Johnson
Dydd Mercher, Awst 2, 2000 |
Yr wythnos ddiwethaf yng Nghymru'r Bydcyhoeddwyd hanes am gyhuddiadau o dwyll ac ystryw yn erbyn rhai o wleidyddion amlwg Iwerddon.
Dyma weddill yr hanes gan Diarmuid Johnson yn sgrifennu o Iwerddon:
Sefydlwyd Tribiwnlys Flood i archwilio cambriodoli arian ym myd cynllunio a datblygu, yn Nulyn yn bennaf.
Yn fuan, oherwydd swmp y dystiolaeth, bu'n rhaid sefydlu tribiwnlys ar wahân i archwilio taliadau preifat i wleidyddion. Tribiwnlys Moriarty yw hwnnw.
Testun syndod mawr oedd y ffordd y gwnaeth bywyd Charles Haughey weddnewid o fewn amser byr iawn. Yr oedd Haughey yn arweinydd plaid fwya'r wlad, Fianna Fail, ac yn taoiseach - Prif Weinidog - am gyfnod yn ystod yr wythdegau. Ond yr oedd yn byw bywyd gwr cyfoethog tu hwnt.
Rhyw fân straeon cymharol ddiniwed a gafodd eu cyhoeddi gyntaf. Charlie wedi prynu llond cês o grysau sidan ym Mharis. Charlie yn hwylio ar gwch plesera. Charlie yn archebu llond selar o win Beaujolais.
Aeth Tribiwnlys Moriarty trwy fywyd y cyn Brif Weinidog â chrib mân.
Erbyn hyn fe wyddom iddo gasglu a phentyrru £8.6 miliwn .
Ei blaid biau llawer iawn ohono. Ben Dunne o'r archfarchnad Dunnes Stores a'r gwr busnes Dermot Desmond oedd dau o noddwyr Haughey.
'Beth nesaf?' meddai pawb. Y peth nesaf oedd y Dirprwy Weinidog Mary Harney yn dweud y dylai'r cyn Brif Weinidog gael ei garcharu.
'Carchar i Charlie' meddai Harney. 'Carchar i Charlie' meddai'r dorf.
Gwrando ar y radio y bore hwnnw yr oedd Charlie. Clywed yr holl ferw a ffonio ei gyfreithwyr. Yr oedden nhw yn paratoi achos llys, a Charlie yn disgwyl mynd o flaen ei well. Yn eironig iawn, mae datganiad Mary Harney wedi ennill brwydr iddo, er nad, o bosib, y rhyfel.
Meddai'r Irish Independant: 'Owing to adverse publicity including comments from Ms Harney that he should be jailed, Judge Kevin Haugh has ordered that Mr Haughey's trial on charges of obstructing the McCracken payments-to-politicians Tribunal should be put off indefinitely.'
Cafodd Charlie Haughey ei gymharu â Phinochet. Hen ddyn mewn cadair olwyn yn pledio, 'Rwyn glaf, ni ddylech fy marnu'.
Hanes cymhleth yw hanes Tribiwnlys Flood a Moriarty - enwau'r barnwyr sydd yn eu cadeirio. Bydd sawl llyfr yn cael ei sgwennu am yr holl halibalw^. Mae rhai yn cymharu'r bennod annisgwyl hon yn hanes yr Ynys Werdd â chwyldro Ffrainc, a'r uchelwyr gorfalch yn cael eu dymchwel. Ond a fydd yna guillotine yn Iwerddon?
Dyna'r cwestiwn.
Mae ymholiadau Flood a Moriarty yn parhau, a bydd egwyl yr haf yn tawelu'r dyfroedd gwleidyddol. Mae'n bosibl y daw trefn newydd yn y pen draw.
Mae Colm Mac Eochaidh, y cyfreithiwr a roddodd gychwyn i'r gyfres o ddatgeliadau wrthi'n sefydlu plaid newydd.
Ond, fel y dywedodd cyn Brif Weinidog arall, Gareth Fitzgerald, yn ddiweddar, bydd yn anodd sefydlu llywodraeth gadarn ar ôl yr etholiad nesaf.
Mae'r rhagolygon yn wael.

|
 |