bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Teigrod Tamil - Cwestiwn ac ateb
Gwion Lewis yn gofyn - ac yn ateb - rhai cwestiynau am y Teigrod Tamil

Pwy neu beth yw'r Teigrod Tamil?
Mudiad gwleidyddol hynod ddadleuol yn Sri Lanca yw'r Teigrod Tamil, sydd yn cael ei ystyried yn fudiad terfysgol gan sawl gwlad dramor.

Arwydd y teigr Nod y mudiad yw sicrhau fod gogledd a dwyrain Sri Lanca yn gwbl annibynnol o'r brifddinas, Colombo.

Cymdeithas Fwdhaidd yw Sri Lanca ar y cyfan, tra bo'r Tamiliaid yn dod o draddodiad Hindŵaidd yn yr India.

Mudodd y Tamiliaid i Sri Lanca (neu Seilon bryd hynny) yn lluoedd mawr i weithio yn y planhigfeydd tê a choffi a reolwyd gan Brydain.

Pa mor fawr yw'r mudiad?
Yn ôl arbenigwyr, mae tua 12,000 o ddynion a merched wedi eu hyfforddi i ymladd ar gyfer y mudiad.

Mae swyddogion plant y Cenhedloedd Unedig yn pryderu fod y mudiad hefyd yn recriwtio bechgyn a merched ifanc iawn.

Ar ben hynny, honnir fod y Teigrod yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol ar faes y gâd: yn 1999, er enghraifft, cafwyd adroddiadau fod y Teigrod wedi llofruddio pentref cyfan mewn ardal Sinhalaidd.

O ble mae'r Teigrod yn cael eu harian a'u hadnoddau?
O safbwynt arfau, credir fod llywodraeth yr India wedi bod yn gefnogol i'r Teigrod.

ArfauHefyd, mae'r mudiad bellach yn un rhyngwladol, gyda chudd-weithredwyr yn prynu arfau soffistigedig ar hyd a lled Ewrop.

Mae'n debyg mai cyfoethogion Tamilaidd yn y Gorllewin yw asgwrn cefn y mudiad yn ariannol, ond mae sôn fod llawer o arfau hefyd wedi eu dwyn o wasanaethau diogelwch Sri Lanca.

Sut mae'r Teigrod yn gweithredu, fel arfer?
Ers y cadoediad yn 2002, bu'r Teigrod yn llawer llai treisgar, ond ceir ymosodiadau ar unigolion o dro i dro. Cyn hynny, hunanfomio oedd pendraw gyrfa pob Teigr ffyddlon, yn arbennig wrth weithredu o gwmpas Colombo yn y Naw Degau.

Yn ôl arbenigwyr, mae'r Teigrod yn gyfrifol am bum gwaith yn fwy o hunanfomwyr na phob mudiad arall tebyg iddo gyda'i gilydd.

Dolennau
Tamil Eelam
Llywodraeth Sri Lanca
Gwybodaeth ddiweddaraf am y difrod yn Sri Lanca
BBC Tamil
BBC Sinhala
TamilNet





cysylltiadau
Gwion Lewis a Sri Lanca

Gwylio'r Byd - erthyglau Gwion Lewis

asia
asia
>China
>Hong Kong
>India
>Pacistan
>Siapan
>Taiwan

Tsunami - gofid a phryder Cymraes

Nepal - ail ymweliad

Nepal - cymorth artistiaid

O Gymru i'r Himalaya

Deng niwrnod yn Ne Korea

Sri Lanca: Ffau'r teigrod

Teigrod Tamil - Cwestiwn ac ateb



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy