 |  | Dydi ffilmio ddim yn hawdd! Nerys Avery yn sgrifennu am ymweliad Hywel |
Pan ydych yn gwylio'r teledu, mae popeth yn ymddangos mor hawdd.
Dim camgymeriadau, dim llithriadau, popeth yn ei le a'r amseru'n berffaith.
Yr hyn nad ydych yn ei weld yw faint o ynni ac amser sydd y tu ôl i'r rhaglen hanner awr yna.
Dydych chi ddim yn sylweddoli ychwaith nad Y Seren ydi seren y sioe bob amser.
Yn hytrach, clai ydyw yn nwylo'r criw cynhyrchu ac, yn enwedig, y dyn camera.
Daeth hyn oll yn amlwg iawn i mi pan ymwelodd Hywel Gwynfryn a'i friw â mi i ffilmio diwrnod yn fy mywyd yn China ar gyfer Ar dy Feic.
Amser yn brin Yr oedd eu hamser yn rhyfeddol o brin gyda dim ond pum niwrnod nid yn unig i ffilmio Y Ddinas Wahareddedig a'r Wal Fawr ond i ddygymod a biwrocratiaeth Llywodraeth China er mwyn ffilmio pob math o olygfeydd yn Beijing, gan gynnwys tylino traed traddodiadol y Chineaid, Tai Chi a fy nilyn i wrth fy ngwaith ac yn seiclo o gwmpas y ddinas a chael cinio Chineaidd.
Yr oedd y trefnu'n hunllef!
I fyny'r Wal Ar y diwrnod olaf y gwnaethom ni ymweld â'r Wal Fawr - dwy awr i deithio yno a dwyawr arall yn ôl a ninnau wedi dewis rhan eithaf pellennig; yn rhannol oherwydd y golygfeydd trawiadol yno ac yn rhannol er mwyn osgoi'r llu o ymwelwyr.
Gosododd Nigel, y dyn camera, ei offer ar waelod darn dychrynllyd o serth i ffilmio Hywel a minnau yn cerdded y Wal.
Y bwriad oedd inni gerdded, ar ôl sgwrs fach, i fyny grisiau bychain tuag at y pellter ac allan o'r golwg.
. Cynnig 1:Sgwrsio am funud cyn cerdded am ychydig i ben y Wal. Yna llais Nigel ar y walkie talkie: "Hmmm, doedd hynna ddim cweit yn iawn. Allwch chi drio eto?"
I lawr a ni gan gynorthwyo'n gilydd ar y grisiau llithrig, serth.
Cynnig 2: Sgwrsio. Dringo yr holl ffordd i ben y Wal ac i'r gorwel wedi ymlâdd yn llwyr ar ôl 15 munud. Disgwyl am y ciw.
"Hmm, doedd y sŵn ddim yn iawn. Mi roddwn ni gynnig arall arni," ac i lawr a ni yn ôl.
Dilynwyd Cynnig 3 gan Gynnig 4 a Hywel a minnau yn teimlo inni gael digon o Wal Fawr China i bara am byth - a phan welwch chi'r rhaglen fe ddeallwch pam!
Wedi iddo ddychwelyd adref sgrifennodd Hywel erthygl ddifyr a phryfoclyd am ei brofiadau yn China gan gyfeirio at arfer y Chineaid o roi enwau Saesneg braidd yn od iddyn nhw'u hunain.
Dywedodd iddo adael ei galon yn Beijing gyda Lemon Pang.
Ond gadawodd lawer iawn mwy na hynny - gadawodd hanner ei ddillad yn wardrob ... y Gloria Plaza Hotel!!

|
 |