"Nid gwlad ydi China - ond byd arall!" I lawer, mae China yn parhau i fod yn un o ddirgel wledydd y byd, gwlad y mae ei maint yn unig yn anodd i'w amgyffred.
Trydedd gwlad fwyaf y byd gyda 22% o'i boblogaeth yn byw yno - 1.2 biliwn o bobl.
Treuliodd Hywel Gwynfryn wythnos yno yng nghwmni Nerys Avery, Cymraes o'r Barri, sydd wedi ffeirio ei bywyd yng Nghymru am fywyd tra gwahanol yn Beijing.
Anfodlonrwydd Pan ddathlodd Nerys, a fu'n newyddiadurwraig gyda'r Western Mail yng Nghaerdydd, ei phen-blwydd yn 30 daeth y dathlu â rhyw anfodlonrwydd i'w rhan.
Yn gweithio yn Llundain ar y pryd, dechreuodd feddwl bod "mwy i fywyd na sgwennu am stocks and sharesyn Llundain".
Pan welodd hysbyseb am athrawon i ddysgu Saesneg yn Tsiena, wnaeth hi ddim meddwl ddwywaith cyn codi pac a mynd.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, hi sy'n rheoli cangen Beijing o asiantaeth newyddion XFL ac AFX, sy'n darparu newyddion am Tsieina i weddill y byd.
Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn gwneud y gwaith gyda'r byd economaidd yn un sy'n newid bob dydd wrth i'r gorllewin droi ei olygon tuag at Tsiena fel gwlad llawn addewid economaidd.
Holi'r Prif Weinidog Mae'n wlad sy'n newid hefyd a bu Nerys yn dyst i'r newid hwnnw gan ddweud ei bod yn wlad tipyn mwy agored heddiw nag oedd gyda'r llywodraeth yn barotach i ddatgelu gwybodaeth a thrafod gyda'r cyfryngau.
Yn wir, uchafbwynt gyrfa newyddiadurol Nerys fu holi Prif Weinidog China yn ddiweddar. "Dw i wedi bod yn newyddiadurwraig am dros 20 mlynedd nawr," meddai, "a dw i wedi gweithio mewn lot o lefydd a chael cyfweliadau gyda lot o bobol bwysig iawn, ond roedd gwneud cyfweliad gyda prif weinidog China yn fyw ar y teledu o flaen 500 miliwn o bobol, a fy mam-yng-nghyfraith, dipyn yn wahanol i'r Western Mail yng Nghaerdydd," meddai.
Siarad yr iaith Mae Nerys yn siarad Chineag yn rhugl ac mae wedi priodi Tony, sy'n dod o'r wlad, yn dilyn perthynas y bu'n rhaid iddyn nhw ei chadw'n gudd am ddwy flynedd.
Wedi deng mlynedd yn y wlad, tair yn byw yn Beijing, mae Nerys wedi hen gartrefu a dod yn rhan o'r ffordd Chineaidd o fyw.
Mae hynny'n ymarfer Tai Chi ben bore ym mharciau'r ddinas ac fe gafodd Hywel yntau gyfle i wneud hynny hefyd.
"Os dw'i wedi wneud o'n iawn mae jyst teimlad o heddwch yn disgyn drostoch chi. Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth," meddai.
Mae hi hefyd yn mynychu sesiynau tylino traed.
"Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig trio byw fel mae'r bobl Chineaidd yn byw," meddai.
Troi'r gwres Ond er bod China yn newid mae rhai arferion caeth ac unplyg yn aros a chyfyngu ar ryddid i'w weld ym mywyd bob dydd y bobl.
Y llywodraeth sy'n penderfynu, er enghraifft, pryd y caiff Tony a Nerys wres canolog yn eu cartref!
"Mae'r gwres canolog yn dod mlaen yn y gaeaf, Tachwedd y cyntaf ac yn mynd i ffwrdd ar Fawrth y pymthegfed. Ac os yw yn rhy oer ar ôl hynny, jyst tyff!
"Mae'r boiler rywle yn y dref a dyda ni ddim yn gallu rheoli pa mor boeth yw hi yn tŷ - nhw sy'n penderfynu popeth," meddai.
Cyfarfu Hywel Gymro arall sydd newydd gyrraedd Beijing, Aled Jones o Aberystwyth, sy'n athro yn y wlad.
Heb os, un o brofiadau mawr y daith oedd ymweliad â Sgwâr Tiananmen lle lladdwyd miloedd o brostestwyr yn ystod gwrthdystiad yn 1989.
Ymwelwyd hefyd â Wal Fawr Tsiena. "Os 'ych chi'n mo'yn gweld symbol o fawredd China, dyma hi - y wal," meddai Nerys, yn cymryd hoe o'i cherdded gyda Hywel.
"Fe godwyd y wal yma i amddiffyn y wlad rhag y Mongoliaid oedd yn trio goresgyn y wlad o'r gogledd ond mae'n beth eironig bod y perygl ddim yn dod o'r gogledd y dyddiau yma.
"Mae'r perygl yn dod o'r gorllewin , o Ewrop ac o'r Unol Daleithiau. Mae'u diwylliant yn llifo i mewn i'r wlad - fel Strabucks a Kentucky Fried Chicken. Mae teledu Americanaidd. Mae popeth yma" meddai.
Bydd gweddill y gyfres yn mynd â Hywel i Guadalupe, Canada, Twrci, Ffrainc a Gweriniaeth Dominican. Ar Dy Feic, bob nos Sul, am chwech wythnos o Fedi 12 ar S4C am 8.30.

|