 |  | Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion Delyth Roberts yn mwynhau'r bywyd yn China.
Dydd Mawrth, Medi 18, 2001 |
Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i BBC Cymru'r Byd
Gorffennaf 9 2001 - parc yr ymerawdwr Cyfarfod Chris a mynd am dro i barc Tiantan (Teml Nefoedd) lle roedd yr Ymerawdwr yn cynnig offrwm i Dduwiau'r nefoedd.
Sgwrsio â merch fach 11 mlwydd oed oedd â gwell Saesneg na rhai o fy myfyrwyr sy'n dangos y gwahaniaeth yn safon addysg y brifddinas a'r wlad!
Mynd heibio i barc ymarfer corff. Roedd nifer o drigolion lleol yma oherwydd bod digon o le yno a chyfle i gael sgwrs.
Dod ar draws tri dyn yn ymarfer chwarae offerynnau a chanu traddodiadol Tsineaidd.
Siarad hefo nhw am amser a chael tro ar offeryn oedd yn debyg i fanjo bychan.
Twristiaid Almaeneg wrth eu bodd yn gweld dau dramorwr yn sgwrsio hefo'r hen ddynion!
Cyfarfod rhai o ffrindiau Tsineaidd Chris. Mynd am ginio gyda nhw a chael cynnig swydd gwirio cyfieithiadau Saesneg i'r cwmni.
Bwyta ar ochr y stryd unwaith eto. Byrddau bychan ar ochr y lôn a dim arall.
Gorffennaf 10-13 - cyfarfod gwr o Giwba Wythnos digon cyffredin. Dydd Gwener cael gwybod bod yr ysgol yn hapus hefo mi a chael cynnig yr un swydd ar gyfer yr haf nesaf, dim ond i mi anfon e bost.
Athro sy'n gadael China yn prynu bwyd i mi. Cael potel o olew 29 kuai am 2 (16c yn lle 2.60 ballu).
Cael pryd gyda'r nos mewn bwyty Indiaidd. Sôn am neis. Drud ond gwerth pob ceiniog a hollol wahanol i fwyd Tsineaidd!
Mynd i glwb nos Havana - clwb Ciwbaidd. Mynd at y bar a dechrau sgwrsio â boi o'r enw Gustavo - aelod o fand sy'n gweithio yno.
Wedi cael contract blwyddyn yn Beijing. Yn wreiddiol o Havana, Ciwba! Methu siarad rhyw lawer o Saesneg a dim Tsineaidd o gwbl, felly dyma ymarfer y Sbaeneg a ddysgais mewn dosbarthiadau nos ym Mangor yn ôl yn 95!
Cyfarfod gweddill y band a dod yn dipyn o ffrindiau efo'r chwaraewr trwmped!
Gorffennaf 14 - siopa Mynd i grwydro efo Alex a phrynu rhagor o dvd's! Bydd rhaid i mi brynu chwaraewr!!!
Cael sgwrs efo'r gwerthwyr - pob un yn mynnu mai eu dvd's nhw oedd y gorau a'r rhataf!
Mynd i farchnad Hongqiao (Pont goch - mae nifer o lefydd wedi e henwi ar ôl hen adeiladau neu gatiau oedd yn sefyll yn y ddinas yn nghyfnod yr Ymerawdwr). Mae'n bosib prynu popeth yma. Mae nifer o enwogion y byd wedi bod yma yn prynu perlau fel Margaret Thatcher, Tony Blair a Bill Clinton ac mae lluniau ohonynt ar y wal!
Mynd i Snalitun ac eistedd y tu allan efo diod, teimlo fel fy mod yn Ewrop! Disgwyl i'r gwerthwyr cd's ddod o gwmpas pan nad ydy'r heddlu'n gwylio.
Cyfarfod a rai o ffrindiau Alex yn Havana's eto. Siarad efo'r band unwaith eto. I fyny tan 7 y bore yn siarad efo'r chwaraewr trwmped - Abdel.
Ffarwelio a mynd yn ôl i'r fflat i gysgu pan oedd pawb arall yn codi i fynd i'r gwaith!

|
 |