BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Portread
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Disgrifio hanes
Dalen Ffeithiau

Mae'n bwysig bod y darllenydd yn darganfod rhyw ffeithiau am gefndir neu hanes y person neu'r cymeriad sy'n cael ei ddisgrifio.

Darllenwch y disgrifiad hwn o hanes y cymeriad Emyr:

Gwesty mawr oedd ei gartref - gwesty ar fin y ffordd. Dros y ffordd roedd y traeth. Doedd yno ddim ond y gwesty ac ychydig o fythynnod, rhyw lond dwrn o garafannau a siop fechan. Yn yr haf byddai pobl yn heidio yno. Fe fyddai'n rhaid i Emyr gysgu mewn ystafell fechan ym mhen ucha'r tŷ gan fod pob ystafell arall yn llawn o ymwelwyr a phobl oedd yn gweithio yn y gwesty...

Drwy gydol y gaeaf byddai'r gwesty'n wag. Bron na fedrai Emyr glywed pin yn disgyn yno. Lle bu symud a siarad, chwarae a chwerthin, yn awr doedd dim ond tawelwch. Dawnsiai'r llwch yn llafnau melyn yn yr haul gwantan yn yr ystafelloedd mawrion.

Anna Ffenna Ffostus gan Emily Huws, Cynllun y Porth

Mae disgrifiadau penodol yma am hanes Emyr. Rydych chi'n gallu gweld bod Emyr braidd yn unig yn y gwesty yn ystod y gaeaf.

Gall y disgrifiad sôn am llawer o bethau, er enghraifft:

  • Teulu agos
  • Lleoliad cartref
  • Trefi neu wledydd mae ef/hi wedi bod ynddynt

Mae'n bwysig ein bod yn ysgrifennu'n fyr ac yn gynnil a pheidio dweud gormod am yr hanes hwn.

Mae'r enghraifft hon yn disgrifio sefyllfa trist cymeriad arall:

Ar ddiwedd y gêm, aeth pawb am adref, y rhan fwyaf i gawod boeth, stafell gynnes a phryd o fwyd blasus wedi ei baratoi ar eu cyfer, ond Alun i fflat oer, ddigysur, heb fath na chawod ynddi, lle y byddai ei fam, os byddai'n lwcus, o leia wedi rhoi bara menyn ar y bwrdd iddo.

Trafodwch gyda phartner sut fath o fywyd sydd gan Alun. Ysgrifennwch baragraff i ddisgrifio Alun mewn cartref sy'n llawn gafael a chariad.



CA2 Creu Portread

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy