| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Mae personoliaeth wahanol gan bob un ohonon ni! Dyma ddisgrifiad o Emyr o'r stori Anna Ffenna Ffostus: Bachgen bach tawel, breuddwydiol iawn oedd Emyr. Nid oedd yn hoffi rhuthro o gwmpas. Doedd o ddim yn hoffi chwaraeon swnllyd. Fyddai arno byth eisiau chwarae pêl-droed na chwarae cuddio. Yn wir, prin y byddai'n chwarae gyda'r plant eraill o gwbl. Yn yr ysgol, safai Emyr yn aml â'i gefn ar y wal yn gwylio'r plant yn chwarae. Weithiau fe deimlai'n unig iawn. Fe syllai ac fe syllai ar y plant, ond ni fyddai'n mynd atyn nhw chwaith. Bellach roedd y plant wedi blino gofyn iddo ymuno â nhw yn y chwarae. Trafodwch gyda phartner sut fath o gymeriad ydy Emyr? Sut fath o bersonoliaeth sydd ganddo? Mae'n bwysig ein bod yn disgrifio personoliaeth cymeriadau'n ofalus gan fod hyn yn dangos i ni'r pethau da a phethau sydd efallai ddim cystal ym mhob cymeriad. Mae'n bwysig dewis a dethol yr ansoddeiriau'n ofalus eto! Sut fath o berson yw'r cymeriad nesaf? Un garedig iawn oedd Awel, bob amser yn barod i helpu pobl eraill, yn un dda am rannu, a byth yn meddwl amdani ei hun yn gyntaf. Mae disgrifio personoliaeth yn fyr ac yn ofalus yn bwysig iawn. Does dim rhaid disgrifio'r bersonoliaeth i gyd gyda'i gilydd. Darllenwch y disgrifiad pellach hwn o Awel. Mae'n ychwanegu gwybodaeth yn gynnil at yr hyn â ddisgrifiwyd eisoes. Fel arfer, rhuthrai pawb oddi ar y bws pan fyddai'n cyrraedd y fynedfa, pawb ond Awel. Byddai hi'n aros i Mrs Thomas, hen wraig gloff a eisteddai yn ffrynt y bws bob tro i fynd o'i blaen. Darllenwch y disgrifiad nesaf. Sut bersonoliaeth sydd gan Llion Thomas? Roedd Llion Thomas yn barod iawn i helpu eraill bob tro! Fo fyddai'n helpu'r athrawon amser cinio a fo fyddai'n cael mynd â negeseuon i wahanol athrawon yn ystod gwersi. Dim ond Llion Thomas! Fo fyddai'n casglu y mwyaf o arian noddi hefyd ar gyfer elusennau bob tro yn yr ysgol. Dyna'r rheswm pam fod pawb yn ei alw'n Llion Thomas - llyfu tîn! Disgrifiwch berson sydd â chymeriad cas! Beth sy'n dangos hyn i'r darllenydd? | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |