Pysgota wedi bachu yn y Blaenau Y mae traddodiad hir o bysgota ym Mlaenau Ffestiniog ac yn llaw yn llaw ag o, traddodiad o greu plu neu gawio. Un sy'n gwybod cymaint â neb am hyn ydi Emrys Evans o'r Manod. Yn sgotwr o frid mae Emrys wedi ei drwytho ers yn blentyn yn arferion pystgota y fro ac mae o'n arbenigwr ar blu yr ardal.
"Mae'r Blaenau yn medru ymffrostio mewn nifer o blu sy'n unigryw i'r ardal. Dydyn nhw ddim i'w gweld yn unman arall yng Nghymru," meddai Emrys sy'n cael ei gydnabod yn gawiwr neu rwymwr plu pysgota heb ei ail.
"Mae yna dros 133 o blu i gyd sy'n hynod i'r ardal plu sy'n cael eu hadnabod fel Plu Stiniog - ac wrth gwrs mae yna ychwanegu atyn nhw bob tymor," meddai.
Dros y blynyddoedd mae Emrys nid yn unig wedi cofnodi pob un o'r plu yma ond wedi darparu catalog sy'n cynnwys llun o bob un ohonyn nhw a disgrifiad llawn.
Mae hwnnw i'w weld yn Archifdy Gwynedd.
Emrys hefyd ydi awdur Dal Pysgod a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch a llyfryn a gyhoeddwyd yn arbennig i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas Enweiriol y Cambrian a sefydlwyd yn 1885.
Y mae creu plu pysgota "sy'n dal" yn gamp go arbennig .
"Yr hyn yda ni'n ceisio'i wneud wrth ddyfeisio pluen ydi meddwl fel mae pysgodyn yn meddwl. Yr ydach chi'n ceisio dychmygu beth sy'n mynd i apelio at bysgodyn a sut bryf mae o debycaf o neidio ato fo," meddai Emrys.
I greu plu sy'n edrych yn naturiol a chyn debyced â phosib i'r pryfed go iawn sy'n hofran ar wyneb y dwr ar wahanol adegau o'r flwyddyn mae Emrys a chawiwyr eraill yn defnyddio pob math o ddefnyddiau yn amrywio o blu llygod dwr a sgwarnogod i " wlân cochddu sy'n dod o le cyfrinachol yn perthyn i'r hwrdd du," meddai.
"Hynny yw, os ydi'r hwrdd yn fodlon wrth gwrs!" ychwanegodd.
Ac wrth gwrs bod plu gwahanol adar yn hanfodol i'r 'bluen' gyda phlu sydd ar wddf ceiliog, er enghraifft yn cael eu defnyddio ar gyfer 'plu sych' y mae'r pysgotwr am iddyn nhw nofio ar wyneb y dwr o gymharu â 'phlu gwlyb' sy'n mynd dan yr wyneb.
"Yn y pen draw yr hyn yr ydan ni'n ceisio'i wneud ydi'r amhosib mewn gwirionedd, sef gwneud y plu mor debyg â phosib i bryfaid go iawn ond mewn gwirionedd, sut y gall dyn ddynwared rhywbeth sy'n un o greadigaethau y Bod Mawr?
"Yn y pen draw y cyfan all rhywun ei wneud ydi ceisio'u gwneud nhw mor gywrain ag y medrwch chi. Ond fyddan nhw byth fatha'r pryfed go iawn achos pa mor dda bynnag ydych chi'n cawio mae'n rhaid ichi gynnwys y bachyn bach metal yna.
Newid ddaeth - arferion pysgota wedi newid dros y blynyddoedd