|  |
  | |
Arferion pysgota wedi newid Dywedodd Emrys Evans mai un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes pysgota yn ardal Ffestiniog oedd sefydlu Cymdeithas Enweirio y Cambria yn 1885.
"Nid yn unig mi greodd y Gymdeithas ddiddordeb mewn pysgota yn yr ardal ond mi wnaeth hi wella'r ddarpariaeth oedd ar gael," meddai.
"Hefyd, wrth droi dau lyn y Gamallt yn rhai pysgota plu yn unig bu'n fodd i gael pobl yr ardal i ymddiddori yn y grefft honno a pheri i rai droi at y grefft o greu eu plu eu hunain, neu gawio fel mae'n cael ei galw."
Mae'r Gymdeithas yn gofalu am 15 o lynnoedd heddiw a nifer o ffrydiau bychain sy'n gysylltiedig a hwy.
Melltith yr asid Ond mae Emrys Evans yn gwybod gystal â neb am y newid a ddaeth mewn arferion pysgota dros y blynyddoedd rhai yn newidiadau cymdeithasol ac eraill yn rhai amgylcheddol.
Melltith cyfoes, meddai, ydi effeithiau niweidiol glaw asid. Yn barod, bu'n rhaid calchu'r tir o gwmpas dau lyn er mwyn dadwneud effeithiau niweidiol asid yn y dwr.
Mynd yn griwiau Gwelodd Emrys Evans bysgota hefyd yn troi yn llai o amgylchiad cymdeithasol nag oedd o a hynny'n bennaf yn sgîl dyfodiad y car.
"Flynyddoedd a fu roeddan ni'n mynd yn griwiau i'r gwahanol lynnoedd. A chan eu bod nhw yn eithaf anghysbell byddai hynny yn golygu cryn dipyn o waith cerdded gyda llawer o hwyl, ymgomio a thynnu coes ymhlith y criw ac mi fyddai pysgotwyr ifanc yn dysgu llawer o fod yng nghwmni hen lawiau," meddai.
Erbyn heddiw, fodd bynnag, y duedd yw i bysgotwyr deithio fesul un yn eu ceir a hynny i lynnoedd gryn bellter i ffwrdd lle maen nhw'n medru parcio bron ar lan y dwr.
"Oherwydd hynny mae mynd i bysgota wedi peidio â bod yn achlysur mor gymdeithasol ag oedd o," meddai.
Er yn gofidio hefyd fod llai o aelodau ifanc yn perthyn i'r Gymdeithas erbyn hyn dywedodd ei fod yn obeithiol ar ôl gweld 37 o bysgotwyr ifainc yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth a drefnwyd ar lyn Morynion ychydig yn ôl.
Yn pysgota ers blynyddoedd lawer mae Emrys yn gredwr cryf yn rhagoriaeth pysgota pluen o gymharu â physgota genwair gan ddweud fod y naill, yn ei farn ef,
|  |
 |  |
|