|  |
  | |
Yn rhwyd y potsiars - stori bysgota Mae yna bob math o straeon am helyntion potsio yn ardal Stiniog - ond dim un mwy erchyll na'r un mae'r nofelydd Geraint Vaughan Jones yn ei chofio
Yn ei gyfrol hunangofiannol O Botsiar i Gipar(Gwasg Carreg Gwalch) mae Edgar Owen yn adrodd un o hanesion fy nhaid yn potsio yn ardal Dolwyddelen rywbryd ar droad y ganrif.
Mae'n debyg iddo gael y stori gan fy nhad, flynyddoedd yn ôl bellach, ond rwy'n cofio fy nhaid yn ei deud hi wrthyf innau hefyd, droeon, pan oeddwn yn blentyn.
Mynd i botsio Yn nhymor yr eogiaid byddai'n arferiad gan dri neu bedwar ohonyn nhw gerdded yn hwyr y nos drwy'r Twnel Mawr, sydd dros filltir o hyd, i Roman Bridge, i botsio yn Afon Lledr.
Weithiau defnyddient dryfer neu gaff, dro arall byddent yn rhwydo'r pyllau. Rhaid cofio ei bod yn fyd digon tlawd yn Stiniog fel ag mewn amal i ardal arall, ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, a bod cryn waith bwydo ar deuluoedd mawr. Roedd potsio yn un ffordd o neud hynny.
Yr adeg honno, yn ôl a ddywedai fy nhaid, safai cwt ym mhen Sir Gaernarfon o'r twnel a chyflogid gweithiwr gan gwmni'r rheilffordd i fod ar ddyletswydd yno, ddydd a nos.
'Dwn i ddim pam, chwaith, os nad i rwystro pobol ac anifeiliaid rhag crwydro i mewn i'r twnel a chael eu lladd gan drên. Sut bynnag, waeth pwy oedd ar ddyletswydd, mae'n amlwg ei fod o a'r potsiars yn deall ei gilydd i'r dim, oherwydd pan ddeuai'n amser i'r rheini droi am adra yn yr oriau mân, yn wlyb at eu crwyn yn amlach na pheidio, byddai tân braf a phaned boeth o de yn eu haros yn y cwt.
Ac yn dâl am y gymwynas, fe adewid eog nobl ar ôl.
Teimlo pwysau yn y rhwyd Ond i fynd at y stori sydd gan Edgar yn ei lyfr. Fel hyn y cofiaf i y manylion ohoni: Roedd yn noson dywyll ac oer ac roedd fy nhaid a dau arall wrthi'n rhwydo un o byllau dyfnion Lledr pan deimlwyd pwysau anarferol yn y rhwyd.
Yn naturiol, yr hyn a feddyliodd y tri oedd bod haldiad da o bysgod ar fin dod i'r lan.
Dychmygwch felly eu sioc pan welsant, yng ngolau eu lamp, nid bysgod gloyw ond wyneb oer, marw, yn dod i fyny o'r dŵr!
Heb iddyn nhw wybod, roedd rhyw druan neu'i gilydd wedi rhoi diwedd arno'i hun ychydig oriau ynghynt!
Sut bynnag, yn gam neu'n gymwys, yr hyn a wnaeth y tri oedd rhoi'r corff yn ôl yn y dŵr, i rywun arall ddod o hyd iddo drannoeth.
Dichon bod y baned boeth wedi bod yn dderbyniol iawn y noson honno ond mae'n debyg bod y dyn yn y cwt wedi gorfod gneud heb ei bysgodyn arferol!
|  |
 |  |
|