BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Lleisiau

BBC Homepage
»Radio Cymru
Cyflwynwyr
Digwyddiadur
Rhaglenni
Ar y Marc
Bwrw Golwg
C2
Clywch Clywch
Eileen
Geraint Lloyd
Siân Thomas
Talwrn
Taro'r Post
Gwybodaeth am Radio Cymru
BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

MedwynByth yn rhy hwyr i ddysgu
Rhai o'r bobl sy'n mynychu Canolfan Addysg Gydol Oes y Blaenau yn sôn am eu profiadau yn ail-afael mewn addysg



Un peth sy'n dod yn amlwg yn sydyn iawn o siarad â'r rhai sy'n mynychu Canolfan Addysg Gydol Oes Blaenau Ffestiniog yw nad yw hi byth yn rhy hwyr i ail-afael mewn addysg.

Ac y mae gwneud hynny yn rhoi hyder newydd i bobol sydd efallai wedi colli cyfle yn ystod eu dyddiau ysgol neu'r oed hwnnw pan oedd eu cyfeillion yn mynd i goleg neu addysg uwch.

A does neb yn gwybod hynny yn well na chyd-lynydd y ganolfan Medwyn Griffiths achos chafodd yntau ychwaith mo'r cychwyn addysgol y byddai rhywun yn ei ddisgwyl yn hanes un sy'n gwneud y math hwn o waith.

Y Canlyniad yw fod Medwyn yn medru uniaethu yn llwyr â'r rhai sy'n mynychu'r ganolfan achos ddaeth llwyddiant addysgol ddim yn hawdd iddo fynta ychwaith.

Yn edigol o Stâd Pengwndwn, Blaenau Ffestiniog, yr oedd yn un o wyth o blant ac wedi gadael ysgol yn 1977 rhoddodd gynnig ar bob math o swyddi gydag ambell un yn fwy annifyr na'i gilydd

Am gyfnod bu'n gweithio lawr y Channel Tunnel'ac yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf bu'n Rheolwr Cynorthwyol mewn cartrefi'r henoed yn Abermaw ac ym Mryn Blodau, Llan Ffestiniog.

Ail-afaelodd mewn addysg trwy fynd ar gwrs Tystysgrif Addysg Ôl-Raddedig Tystysgrif Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol), ym Medi 2001 ac wedi ei gwblhau'r mis yma.

Ar ganol gwneud y cwrs y cafodd ei benodi yn Gydlynydd Dysgu Gydol Oes .

Meddai:
"Dwi'n credu fod bobl o bob oed angen gwneud rhywbeth, does dim byd tebyg, yn fy marn i, i godi llyfr addas i'r cwrs a gwneud synnwyr ohono er na fuaswn wedi dweud hynny ddwy flynedd yn ôl!

"Mae'r myfyrwyr sy'n defnyddio'r Ganolfan yma wrth eu bodda yn gwneud y gwaith yn ogystal â chymdeithasu a rhai eraill. Mae 'na deimlad o gyfeillgarwch a chymuned yma."

Ar hyn o bryd, mae'r myfyrwyr yn gwneud cwrs Gorwelion Newydd sy'n delio â modiwla gwahanol o gyfrifiaduraeth i astudio'r amgylchedd.

"Yn ystod y dydd mae'r cyrsiau wrth gwrs ond mae gennym ni gyrsiau cyfrifiaduron yn rhedeg am bedair noson yr wythnos hefyd - cwrs gwahanol bob nos," meddai.

Ar nos Fawrth a nos Iau mae gennym gwrs Sbaeneg wedi profi'n boblogaidd iawn.

"Does dim byd o'i le ceisio gwella'ch sgiliau a'ch hyder a'r ffordd yr ydw i'n sbio ar bethau ydi, os gallis i, 'hogyn o Bengwndwn', lwyddo mi fedar unrhyw un arall hefyd. Dydi hi byth yn rhy hwyr," meddai Medwyn.

Gellir cysylltu â Medwyn ar:
01766 831913 neu 07919 044337
E-bost Mailto:RobertMedwynGriffiths@gwynedd.gov.uk


News image
Byth yn rhy hwyr i ddysgu
Profiad Myfyrwyr - Katherine Keogh
Profiad myfyrwraig - Karen Chapman
Profiad myfyrwyr
Profiad myfyrwyr - Beryl Evans
Profiad myfyrwyr - Jane Wendy Roberts
Profiad myfyrwyr - Keeley Reynolds
Profiad myfyrwyr - Marian Orton
Profiad myfyrwyr - Samantha Cann
Profiad myfyrwyr - Sioned Williams
Profiad myfyrwyr- Gilliam Groves


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy