Profiad myfyrwyr - Samantha Cann Holi myfyrwyr Canolfan Addysg Gydol Oes Blaenau Ffestiniog am eu profiadau o ail-afael mewn addysg
Enw: Samantha Cann Yn briod gyda phlant, dwy, pump, 10 ac 11 oed. Gwr yn gweithio gyda Chyngor Conwy. Dau lefel O a sgiliau teipio. Gweithio nes geni'r plentyn diwethaf.
Yn astudio: Gorwelion Newydd. Astudiaethau Merched. Cymraeg."Er mwyn gwella fy sgiliau ac ehangu fy ngorwelion. Mi fyddwn i wedi gwirioni medru graddio."
Yn anodd?:Yn nerfus i ddechrau ond gwnaeth y tiwtor hi'n hawdd imi ail-afael mewn addysg.
Yn gobeithio: Hoffwn roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a gweithio gyda'r anghenus efallai, o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Rhedeg fy musnes fy hun o bosib.
Sylwadau: Heb y feithrinfa y mae'r coleg yn ei chynnig ni allwn fod wedi ail-afael mewn addysg. Mae addysg gydol oes yn cymryd gofynion teuluol a magu plant i ystyriaeth.
Ar ôl cael plant gall marched deimlo'n ddiolwg a thew. O gael ein caethiwo i'r ty gyda phlentyn gallwn deimlo'n unig ond bu dychwelyd at addysg yn hwyl ac yn fwynhad gan agor fy meddwl a fy neffro. Yr wyf wedi gwneud ffrindiau gyda llawer o ferched diddorol sydd wedi cyflawni llawer iawn mwy nag maen nhw'n ei feddwl.